Gardd Gymunedol Canolfan Byw’n Iach Arfon

Mae Byw’n Iach ac Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Cyngor Gwynedd yn datblygu gardd gymunedol ar gyfer pobl a grwpiau Caernarfon.

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

O flaen Canolfan Byw’n Iach Arfon, ar Ffordd Bethel, mae darn o dir yn cael ei drawsnewid a’i ddatblygu i fod yn ardd gymunedol. Mae’r prosiect yn cael ei gydlynu trwy Terry Owen Williams ac yn brosiect ar y cyd rhwng Byw’n Iach a Cyngor Gwynedd. Derbynwyd dwy grant ar gyfer y prosiect hwn gan Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Ffermydd & Gerddi Cymdeithasol.

Mae’r gwaith adnewyddu a thrawsnewid wedi dechrau ers dechrau’r flwyddyn ond bellach yn agosáu at fedru gwahodd grwpiau cymunedol ac ysgolion lleol draw i gael treulio amser a gwneud gwaith yno. Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Pendalar eisioes wedi bod ddigon ffodus i gael treulio amser yn plannu yn yr ardd a dros yr wythnosau nesaf byddwn yn croesawu mwy o unigolion, grwpiau ac ysgolion.

Yn ôl Terry Owen Williams sydd yn cydlynu’r prosiect, daeth y syniad o greu gardd gymunedol ar ôl ymgynghori gyda gwasanaeth anableddau dysgu, eu defnyddwyr, darparwyr lleol, Dementia Actif Gwynedd, Pontio’r Cenedlaethau, Age Cymru Gwynedd a Môn ac Ysgol Pendalar. Yn ogystal, drwy gyfrwng holiadur dywedodd canran uchel o’r cyhoedd y byddai ganddynt ddiddordeb mewn gweld gardd gymunedol yn cael ei ddatblygu yng Nghaernarfon. ‘Ar ôl sefydlu’r prosiect, meddai, ‘fe fydd Byw’n Iach ac Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd yn gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw’r safleoedd i sicrhau ei fod yn cael ei gadw’n saff, thaclus a diogel i’r holl ddefnyddwyr. Gan mai Byw’n Iach sydd yn berchen ar y safle o flaen y Ganolfan, y nhw fydd yn gyfrifol yn bennaf am yr ardal yma. Fodd bynnag er mwyn sicrhau bod yr ardd ar dir y Ganolfan yn gallu cael ei ddefnyddio gan gymuned ehangach. Mae’r cwmni Byw’n Iach yn awyddus iawn i sicrhau bod tîm anableddau dysgu’r cyngor, Men’s shed a grwpiau cymunedol eraill yn cael mynediad i’r tir ar unrhyw adeg er mwyn gwirfoddoli i gynnal a chadw’r rhandiroedd’.

Y gobaith yw bydd yr ardd hon yn fan i ddod â phobl a grwpiau Caernarfon ynghŷd trwy gynnig awyrgylch cyfeillgar ac  adeiladu ysbryd cymunedol ymysg unigolion a llu o grwpiau cymunedol fydd yn gweithio yno.

Bydd mainc cyfeillgarwch hefyd yn cael ei gosod yn yr ardd ac yn fan i bobl fedru eistedd i fwynhau’r ardd a chael sgwrs gyfeillgar. Rydym yn awyddus i weithio gydag unigolion a grwpiau lleol i ddylunio’r fainc liwgar hon – os oes diddordeb cysylltwch ar bob cyfrif!

Os hoffech glywed mwy neu bod ynghlwm a’r prosiect mae croeso i chi gysylltu â Terry ar terryowenwilliams@bywniach.cymru