Genod hoci’n herio storm Arwen (a Phwllheli)

Buddigoliaeth i dîm hoci merched Caernarfon gartref yn erbyn Pwllheli 1-0

Clwb Hoci Merched Caernarfon
gan Clwb Hoci Merched Caernarfon
hoci4

Mwyafrif o’r tîm a wynebodd storm Arwen a Phwllheli

hoci2
hoci3
hoci1

Er i’r gwynt yn chwythu 50km yr awr ar gae bob tywydd Llanrug, aeth genod Caernarfon amdani yn y gêm gynghrair yn erbyn Pwllheli ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 27ain.

Roedd hi’n gêm agos iawn gyda’r ddau dîm yn pwyso’n dda er i’r gwynt fynd a’r bêl gyda hi o bryd i’w gilydd!

Daeth unig gôl y gêm gan Sioned Williams, wedi ei chreu gan Lois Parry Jones.

Da iawn Erin Gibbard a Cadi Wyn ar eu hymddangosiad cyntaf i’r tîm hŷn!

Mae’r genod yn falch o gael buddugoliaeth arall ar ôl colli mewn cyfres o gemau ers mis Medi. Dim ond Dysynni sydd ar ôl i’w wynebu yn Nhywyn cyn toriad am y ’Dolig. Pob hwyl i’r tîm!

Gemau’r tymor:

Y Drenewydd 1 – 2 Caernarfon
Caernarfon 0 – 6 Y Trallwng
Llanfair Caereinion 3 – 0 Caernarfon
Caernarfon 0 – 6 Bangor
Caernarfon 2 – 4 Penllyn
Caernarfon 1 – 0 Pwllheli

Cofiwch ddilyn y clwb ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf – chwiliwch am hocicaernarfon.