Gohirio Gŵyl y Felinheli

Mae Gŵyl y Felinheli 2021 wedi cael ei gohirio am flwyddyn er mwyn ’diogelu iechyd y cyhoedd.’ 

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Screen-Shot-2021-02-10-at-20.18.55

Gŵyl y Felinheli 2019

Mae Gŵyl y Felinheli yn ŵyl 9 niwrnod sydd wedi cael ei chynnal yn ei ffurf bresennol ym mhentref y Felinheli ers degawdau. 

Mae’r Pwyllgor wedi dod i’r casgliad mai “dyma’r penderfyniad iawn i’w wneud eleni” er gwaethaf datblygiadau gyda’r rhaglen frechu.

Mae’r ŵyl yn cynnig 9 niwrnod o weithgareddau amrywiol i bobol leol a phobol o du allan i’r pentref, gan gynnwys twrnamaint golff, Stomp, Taith Gerdded, Noson Flasu Gwin, Ras 10k, Taith Henoed, Ffair Gynnyrch, Noson Lawen, a llawer mwy.

Mae’r Ŵyl yn bwriadu gohirio dathliadau 2021 am flwyddyn, gan addo y bydd hi’n “chwip o Ŵyl yn 2022!”