Cân a gwefan i godi calon yng nghefn gwlad

“Mae Nerth Dy Ben yn ymgyrchu i atgoffa’n hunain o’n cryfderau o dro i dro”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Dwy o’r chwe chyfaill sydd wedi sefydlu Nerth Dy Ben, Nia Parry ac Alaw Owen

Mae prosiect newydd ‘Nerth dy Ben wedi lansio sengl a gwefan er mwyn rhoi llwyfan i bobl rannu profiadau positif, yn y Gymraeg, o fyw a gweithio yng nghefn gwlad Cymru.

Mae’r sengl ‘Byw i’r Dydd’ – sydd wedi ei chyfansoddi  gan Rhydian Meilir a Ffion Gwen a’i chynhyrchu gan Mei Gwynedd – yn cael ei rhyddhau heddiw a hithau yn Ddydd Miwsig Cymru.

Y rhai sy’n gyfrifol am y prosiect, yw Nia Parry, cyflwynydd a chynhyrchydd teledu o Gaernarfon, Alaw Owen a’i brawd Ifan o Lanrwst, Elen Lois o Langernyw, Nia Lloyd o Groesoswallt ac Amanda Harries o Plwmp, Ceredigion.

“Mae’r cynllun yma’n agos at ein calonnau ni,” eglura Ifan Owen, “gan i ni gyd brofi cryfder corff a meddwl wedi i Alaw gael ei niweidio mewn damwain car difrifol ddwy flynedd yn ôl.

“Fel teulu a ffrindiau, roedd hi’n gyfnod anodd, ond mi dynnon ni i gyd oddi ar gryfder Alaw ei hun, wrth iddi gryfhau a gwella yn dilyn y ddamwain.

“Ein gobaith, wrth i’r wefan sefydlu a’r cynllun ddatblygu, yw cynnal digwyddiadau Nerth Dy Ben (wedi Covid-19), gan godi ymwybyddiaeth a thanlinellu’r pwysigrwydd o gynnal meddwl cadarnhaol, drwy rannu meddylfryd bobl o fewn y gymuned wledig am gryfder meddwl.”

“Atgoffa’n hunain o’n cryfderau”

“Mae Nerth dy Ben yn lle i bawb sydd angen eu hatgoffa, am y chwistrelliad bach ychwanegol yna o egni a hyder,” meddai Alaw Owen.

“Yn hytrach na meddwl am yr hyn na allwn ni wneud, mae Nerth Dy Ben yn ymgyrchu i atgoffa’n hunain o’n cryfderau o dro i dro.”

Mae’r wefan yn cynnwys adran ‘Nerth yr Ifanc’ sy’n le i blogs a vlogs gan bobl ifanc am eu cryfder meddwl nhw.

Un o uchafbwyntiau’r adran yw rhestr o 5 cân uchaf ‘Cana nerth dy ben’ gan gyfranwyr sy’n rhannu cerddoriaeth codi calon sy’n gwneud i rywun ganu a dawnsio i’r miwsig.

Mae modd lawrlwytho ‘Byw i’r Dydd’ drwy iTunes a drwy’r platfformau arferol, gyda chyfran o bob lawr lwythiad yn cyfrannu tuag at ariannu’r prosiect.

Artistiaid ifanc o Ddyffryn Clwyd ar glawr sengl newydd ‘Byw i’r Dydd’