TWT-hill!

Mae Twthill Taclus yn ei ôl ddydd Sadwrn

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
208326765_874090313182937

Sesiwn Twthill Taclus, mis Awst.

Mae Twthill Taclus, sesiynnau codi sbwriel yn ardal Twthill Caernarfon yn ei ôl ddydd Sadwrn.

Mae’r sesiynnau wedi bod yn llwyddiant, gyda thua ugain o bobol, yn cynnwys plant, yn dod i’r sesiynnau.

Bydd criw yn cyfarfod am 10yb ar sgwâr Twthill ddydd Sadwrn (18 Medi) i godi sbwriel ar strydoedd yr ardal.

Mae croeso i bawb ymuno, ac mae’r holl offer yn cael ei ddarparu.