gan
Osian Wyn Owen
Roedd pobol ifanc Caernarfon ymhlith y miloedd o bobl ifanc ar draws Cymru a gymrodd rhan yn ail Eisteddfod T Urdd Gobaith Cymru eleni. Dyma grynodeb o’r canlyniadau lleol:
Cerddorfa Cegin (AAA) dan 25 oed:
- 2il Band Cegin Samba Ysgol Pendalar
Unawd Cerdd Dant Bl.3 ac iau:
- 3ydd Gwenllian Hedd Trefor Adran Bontnewydd
Perfformiad Swigen (Unrhyw oed):
- 2il Cofis Dre Caernarfon Adran Tref y Gelli
Trêl Ffilm:
- 1af Seth Isaac ac Elsa Grug Adran Tref y Gelli
Sgets Deuluol :
- 1af Teulu Caernarfon Adran Tref y Gelli
Dynwarediad:
- 2il Nel Angharad Williams Adran Tref y Gelli
Unawd Offerynnol Bl.7, 8 a 9
- 3ydd Casi Lili Jones Ysgol Syr Hugh Owen
Meim Cân Bop Gymraeg (AAA) dan 25 oed:
- 1af Criw Ysgol Pendalar
Unawd Cerdd Dant Bl.10 a dan 25 oed
- 2il Fflur Davies Aelod Unigol Arfon
Unawd o Sioe Gerdd 19-25 oed
- 3ydd Fflur Davies Aelod Unigol Arfon
CYFANSODDI/CREU:
Barddoniaeth Bl. 7, 8 a 9:
- 2il Ilse Griffith Ysgol Syr Hugh Owen
Cyfansoddi Cerddoriaeth Bl.7, 8 a 9:
- 1af Martha Grug Puw Ysgol Syr Hugh Owen
Tynnu Llun 2D Bl.6 ac iau (Anghenion Dysgu Ychwanegol Dwys):
- 1af Megan Gill Ysgol Pendalar
Tynnu Llun 2D Bl.7 a dan 19 oed (Anghenion Dysgu Ychwanegol Dwys):
- 2il Genod Menai Ysgol Pendalar