Isio ymuno â Grŵp Cymunedol Twthill?

Mae cyfarfod agored nos Lun

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Untitled-design-5

Mae cyfarfod wedi ei drefnu nos Lun i sefydlu Grŵp Cymunedol Twthill.

Bwriad y grŵp fydd adeiladu ar lwyddiant Twthill Taclus, digwyddiadau casglu sbwriel misol, er mwyn cynnal rhagor o ddigwyddiadau a sicrhau gwelliannau i’r ardal.

Mae cyfarfod anffurfiol yn cael ei drefnu nos Lun nesaf, ac mae’r cyfarfod yn agored i unrhyw sydd sydd â diddordeb.

Mae’r grŵp yn bwriadu dechrau drwy drafod syniadau ar gyfer dathliad Nadolig yn Twthill.

Felly dewch a’ch syniadau i’r Twthill Vaults nos Lun nesaf am 6 o’r gloch.