Lansiad Bro Ni! 

Digwyddiad yn lansio sut allwn ddathlu a hyrwyddo ein Bro! 

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Digwyddiad yn lansio sut allwn ddathlu a hyrwyddo ein Bro wedi cychwyn yn y Galeri 

19:40

Amdani Rwân …. 

Pob Lwc i Guto yn ei swydd newydd efo Comisiynydd y Iaith Gymraeg a Diolch yn fawr iawn am dy Holl Gefnogaeth efo @Caernarfon360 

Ydych chi yn gwybod am ddigwyddiad sydd ar y gweill yn Gaernarfon? 

Gadewch ni wybod @Caernarfon360 ⭐️???

19:36

LlWYTH o syniadau da am straeon lleol difyr yma heno. A chriw da o bobol leol i fynd ati i greu ar eu gwefan fro yn y dyfodol agos ?

Os hoffech gopi o lyfryn gweithgareddau #BroNi i’ch ysbrydoli, cysylltwch gyda @Bro360 @Caernarfon360 neu ewch i’r siop lyfrau annibynnol lleol! 

19:33

Llawer o drafodaeth a rhannu syniadau sydd yn gweithdy BusnesaBach.Cymru gyda Caryl Owen 

Gret clywed am syniadau newydd sydd gan fusnesau lleol 

19:24

Gweithdy efo Guto yn ddifyr!

Rhannu cyngor gret am hyrwyddo digwyddiadau ar Calendr Bro360 ar y Wefan Bro 

Rhannu syniadau am sut i ddarlledu a rhannu stori o ddigwyddiadau rydych chi yn ei drefnu

19:20

Ysbrydoliaeth i orffen y panel …

Dewi Jones yn meddwl fod Pobl Caernarfon sydd yn gwneud Caernarfon 

18:51

Pa gynhwysion sydd angen i wneud ‘Digwyddiad Llwyddiannus’? 

‘Top Tips’ gwych gan Dewi Jones 

⭐️⭐️⭐️⭐️⭐️

18:38

6E4BCD6C-36B6-4325-8ACC

Roedd bod yn rhan o’r grŵp ‘Cofis Curo Corona’ yn gyfle i gefnogi fy nghymuned a ma genai rwan lwyth o ffrindia’ wan yn ei 70au/80au ?
Dewi Jones – Caernarfon 

@Bro__360 @caernarfon360

18:30

6943472B-01F1-484E-8E8B

‘Mae pobl yn amlwg isho torchi llewis a gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau lleol’

Prif nôd ydi tynnu pobl at ei gilydd, dwad u adnabod ein cymdogion a sefydlu cymuned cymunedol yn Twthill’

Dewi Jones – Trefnydd Digwyddiadau Twthill Caernarfon 

18:25

‘Y syniad o berthyn wedi mynd yn fwy blaenllaw i mi yn ddiweddar ac yn rhoi pwrpas i mi mewn cyfnod anodd’ meddai trefnydd Gwŷl Fro Felinheli – Anwen Roberts 

18:11

Barod am y panel …. 

Sgwrs banel Bro360

Sut gallwn ailgynnau bwrlwm bro?

Mari Emlyn yn holi Sioned, Dewi a Anwen