Mae’r ailddatblygiad gwerth £5.8m yng Nghei Llechi, Caernarfon bellach ar agor i’r cyhoedd.
Mae’r prosiect adfywio sylweddol ar lannau Afon Seiont, a weithredwyd ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon a Galeri, yn cynnwys 19 o unedau gwaith ar gyfer cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol.
Ariannwyd y prosiect trwy becyn ariannol yn cyfuno mwy na £3.5m o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn ogystal â chyllid gan Lywodraeth Cymru, Croeso Cymru, Cadw a Chyngor Gwynedd.
Yng ngwaith celf a phensaerniaeth lled-ddiwydiannol y prosiect mae cyfuniad o’n hanes cyfoethog a dyfodol mentergarwch yn y dref, gyda themâu chwarelyddol a morwrol yn rhedeg drwy’r dyluniad.
Yn ôl Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri Caernarfon mae’n “gyfuniad sensitif” o’r hen adeiladau ar y safle, a’r gwaith adeiladu newydd:
“Mae lês wedi cael ei gytuno ar dros 50% o’r 19 uned bellach. Rydym yn parhau i hyrwyddo gweddill yr unedau a hoffem glywed gan wneuthurwyr sydd â diddordeb.
“Mae’r ailddatblygiad bellach wedi’i gwblhau a bydd Cei Llechi yn cyfrannu at ddatblygu busnes, creu swyddi, yn ogystal â bod yn atyniad ychwanegol ar gyfer ein cymuned leol ac ymwelwyr.”