Mae Llety Arall, menter gymunedol yng Nghaernarfon, sy’n darparu llety i ymwelwyr y dref yn agor ei drysau eto.
Mae ystafelloedd y fenter bellach ar gael eto i deuluoedd, cyplau a theithwyr unigol sy’n dod i Gaernarfon ar eu gwyliau neu i ymweld â’r teulu yn yr ardal. Wrth i’r cyfyngiadau lacio ymhellach, mae cyfle i ymwelwyr aros am dair noson neu fwy. Gyda’r 7 ystafell ar 2 lawr yr adeilad bydd modd gwneud hyn yn ddiogel.
“Rydym yn falch iawn o gael croesawu ymwelwyr eto. Ac rydym yn gwneud pob dim i sicrhau bod ein hymwelwyr yn ddiogel. Cadw pawb yn ddiogel – ymwelwyr, gwirfoddolwyr a’r gymuned ehangach – yw’r peth pwysicaf i ni.” medd Selwyn Jones, cadeirydd Llety Arall.
Amcan gwreiddiol Llety Arall oedd cynnig llety fforddiadwy nid yn unig i deuluoedd, cyplau ac unigolion – yn arbennig felly unhrywun sydd â diddordeb yn iaith, treftadaeth a diwylliant bywiog ac unigryw Caernarfon – ond hefyd i grwpiau o deithwyr, gan estyn gwahoddiad arbennig i grwpiau o ddysgwyr Cymraeg wedi’i deilwra i angheion y grwp. Ond fel nifer o fusnesau eraill roedd yn rhaid addasu’r cynnig yn sgil Covid-19. Mae’r fenter yn gobeithio croesawu grwpiau o ddysgwyr i Gaernarfon unwaith eto yn y dyfodol, ac mae croeso i unrhywun sydd eisiau sgwrs bellach am ddod â grwp i gysylltu â ni i drafod eu cynlluniau.
“Caernarfon ydy tref Gymreiciaf y byd ac felly yn lle perffaith i ymdrochi yn yr iaith a chael blas ar fywyd sy’n naturiol yn Gymraeg. Yma cewch chi’r profiad unigryw o wneud popeth yn Gymraeg.” medd Dani Schlick, aelod bwrdd Llety Arall.
Fel dywedodd Siân ymwelydd o Landysul
Wedi mwynhau yn FAWR – Llety cyfforddus, glân a chroesawus. Dwli ar Gaernarfon!
Mae gwesteion Llety Arall yn aros mewn adeilad a adnewyddwyd i fod mor amgylcheddol glên â phosib, gan ddefnyddio deunyddiau, gweithwyr a chyflenwyr mor lleol â phosib. Gosodwyd paneli cynhyrchu trydan ar do’r adeilad, ac mae’r fenter yn parhau i gefnogi busnesau lleol o ddydd i ddydd. Mae ei hymwelwyr felly hefyd yn cefnogi’r economi leol.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan lletyarall.org neu cysylltwch heddiw ar post@lletyarall.org neu 01286 662907.