Llwyddiant y Cofi yn Canada gyda tîm rygbi saith bob ochr Prydain!

Mae cyn aelod Tim Rygbi Caernarfon a academi rygbi Coleg Llandrillo wedi dychwelyd o Ganada ar ôl cynorthwyo tîm rygbi saith bob ochr Prydain i ddod yn ail yng Nghyfres Rygbi Saith Bob Ochr y Byd.

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
morgan-williams-1

Dechreuodd siwrna rygbi Morgan Williams ar y Morfa yn Gaernarfon ac mae wedi dangos talent ers y dyddiau cynnar.

Dilynodd Morgan Williams, 25 oed o’r Felinheli, gwrs Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Chwaraeon ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos, ac roedd yn un o’r ddau Gymro a ddewiswyd i garfan Prydain eleni.

Tîm De Affrica oedd yn fuddugol yn y gyfres wedi iddynt ennill y ddau ddigwyddiad a drefnwyd a chipio teitl Cyfres y Byd am y pedwerydd tro. Oherwydd effaith pandemig Covid-19 dim ond dau dwrnamaint a gynhaliwyd yn ystod cyfres 2021, yn Vancouver ac Edmonton, yn hytrach na’r deg sy’n digwydd fel arfer. Roedd y nifer o dimau hefyd yn llai, un deg chwech yn hytrach na deuddeg ym mhob twrnamaint.

Roedd Morgan yn aelod allweddol o garfan Prydain yn y gystadleuaeth ble rhannwyd y 12 tîm yn dri grŵp gan ddefnyddio’r un drefn â’r gemau Olympaidd. Roedd tîm GB yn grŵp B gyda Hong Kong, Iwerddon a Jamaica.

Ar ôl canlyniadau gwych yn y grŵp, enillodd GB yn erbyn UDA (21-19) ac yna curo Canada 22-12 i gyrraedd y rownd derfynol. Yn anffodus i Morgan a thîm GB, De Affrica enillodd y gêm honno 24-12.

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau chwaraeon neu am leoedd yn un o academïau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai, ffoniwch dîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg ar 01492 542 338.

E-bost: enquiries.llandrillo@gllm.ac.uk

Gwefan: www.gllm.ac.uk

Awydd rhoi cynnig ar chwarae rygbi ac yn byw ger Caernarfon?

Cysylltwch gyda Clwb Rygbi Caernarfon neu ewch draw i ymweld Y Morfa

Clwb Rygbi Caernarfon