Marged Tudur o Gaernarfon yn cipio un o wobrau Llyfr y Flwyddyn

Mae Marged Tudur, a ddaw’n wreiddiol o Forfa Nefyn, bellach yn byw yng Nghaernarfon

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi rhai o enillwyr gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2021, ac mae awdur o Gaernarfon ymhlith y ’sgwennwyr llwyddiannus.

 

Mae Mynd gan Marged Tudur wedi cipio’r wobr categori Barddoniaeth.

Y beirniaid eleni oedd Guto Dafydd; y cyn Fardd Plant Cymru Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr Esyllt Sears.

Mae galar a chariad yn llinyn arian drwy Mynd, ac fe’i disgrifwyd gan y beirniaid fel “teitl pwerus […] sydd yn mynnu lle ar silffoedd llyfrau trwy Gymru gyfan.”

Ddiwrnod cyn y cyhoeddiad, daeth Marged Tudur i frig cystadleuaeth y Talwrn BBC Radio Cymru fel rhan o’r tîm Dros yr Aber o Gaernarfon.

Rai misoedd yn ôl gwnaeth Marged Tudur gyfweliad am ei chyfrol gyda Caernarfon360, lle mae’n sôn am bresenoldeb y dref yn y gyfrol ymhlith themâu eraill. Cliciwch yma i’w ddarllen.

 

Llongyfarchiadau mawr, Marged!