Menter Ty’n Llan yn chwilio am fenthyciad

Mae Menter Ty’n Llan, Llandwrog, yn chwilio am fenthyciad er mwyn prynu’r dafarn yn y pentref. 

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
94546

Tafarn Ty’n Llan, Llandwrog, ger Caernarfon.

Mae’r fenter yn pwysleisio bod angen y cymorth ariannol o £350K ar fyrder.

 

Mewn datganiad dywedodd Menter Ty’n Llan

 

“Mewn cyfarfod ar Zoom nos Fawrth 9 Chwefror cafwyd cefnogaeth gref i’r syniad o greu Menter Ty’n Llan er mwyn prynu tafarn Ty’n Llan a’i rhedeg fel menter gymunedol, gyda’r nod o’i datblygu fel adnodd sydd am apelio at bawb.

 

“Bydd Cymdeithas Budd Cymunedol yn cael ei ffurfio a bydd cyfle i brynu cyfranddaliadau yn y Gymdeithas cyn bo hir.

 

Ond yn y cyfamser rydym angen benthyciadau sylweddol gan unigolyn neu griw o unigolion i gasglu cyfanswm o £350K.”

 

Cadarnhaodd y fenter bod angen canfod £350K ymhen wythnos er mwyn diogelu’r pryniant.

 

I gynnig benthyciad, dylech gysylltu â Grant, Wyn, neu Caryl ar grant@deg.cymru, wyn@aqua-marketing.co.uk, neu post@celyn.cymru.