gan
Osian Wyn Owen
Bydd Casia Wiliam, sy’n dod yn wreiddiol o Nefyn ond sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon yn lansio ei chyfrol ddiweddaraf ymhen wythnos a hanner.
Sara Mai a Lleidr y Neidr yw cyfrol ddiweddaraf Casia Wiliam i blant 7-11 oed.
Mae’r gyfrol yn ddilyniant i’w chyfrol Sŵ Sara Mai, a bydd lansiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn Hydref 23 gydag ymddangosiad gan westai arbennig.
Yn Palas Print am 2 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn 23 Hydref bydd Casia, y cyn-Fardd Plant Cymru yn lansio ei chyfrol yn siop Palas Print Caernarfon yng nghwmni neidr go iawn o Sŵ Bae Colwyn!
Bydd y lansiad hefyd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb.
Mae Palas Print yn pwysleisio bod nifer cyfyngedig o leoedd, a bod rhaid archebu lle drwy e-bostio eirian@palasprint.com.