gan
Osian Wyn Owen
Ar nos Sadwrn, 18 Medi, bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal digwyddiad blasu gwin unigryw yn ‘Yr Aelwyd’ yng Nghaernarfon.
Mae’r dyddiad cau i brynu tocyn ’fory, ac mae Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi hysbysu’r sawl sy’n dymuno dod i’r noson fod llai na 10 tocyn ar ôl.
Gallwch brynu tocyn yn fan hyn.
Mae’r Ŵyl yn croesawu cyn berchennog bwyty Les Gallois yng Nghaerdydd, Francis Dupuy, i gynnal y noson.