Poppy Jones: Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Arfon

Mae’r canlyniadau wedi cael eu cyhoeddi

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
IMG_6963

Mae Poppy yn dod o Gaernarfon

Mae aelodau Senedd Ieuenctid newydd Cymru wedi cael eu cyhoeddi, gyda 60 aelod yn cael eu hethol i gynrychioli pobl ifanc 11-17 oed.

 

Ymhlith yr aelodau hynny mae Poppy Jones o Gaernarfon, sy’n ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen.

Ar raglen Dros Frecwast ddoe, dywedodd ei bod yn teimlo fod “yn rhaid” iddi sefyll yn yr etholiad, a “bod gwleidyddiaeth rŵan yn bwysicach fyth.”

Wrth drafod ei blaenoriaethau, nododd Poppy fod gweithredu ar newid hinsawdd yn bwysig iddi. Honodd nad oedd “llawer wedi cael ei wneud” yn uwchgynhadledd COP26, a’i bod am sefyll “er lles pobl ifanc eraill”.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Siân Gwenllian AS, cynrychiolydd yr ardal yn Senedd Cymru, wedi llongyfarch Poppy ar ei llwyddiant gan ddweud bod “angerdd ein hieuenctid yn heintus.”

Llongyfarchiadau, Poppy!