Prosiect Placiau Llechi Caernarfon 

Cymdeithas Ddinesig Caernarfon yn brysur osod placiau llechi i wella dealltwriaeth hanes y Dref

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Placiau Llechi Caernarfon.

Yn ystod y cyfnod clo, mae Cymdeithas Ddinesig Caernarfon wedi bod wrthi’n brysur ar brosiect newydd i wella dealltwriaeth o hanes y Dre.

Yn dilyn derbyn grantiau gan Gronfa’r Loteri a mudiadau lleol, mae’r Gymdeithas yn gosod tua 40 o blaciau llechi ar adeiladau o bwys yn y Dre, ac ar gartrefi rhai o enwogion Caernarfon.

Byddant hefyd yn gosod tua 70 o Godau QR ar adeiladau er mwyn i ddefnyddwyr ffonau clyfar allu cael rhagor o wybodaeth am y mannau hyn.

Yn ogystal, byddwn yn paratoi map i alluogi pawb fynd ar daith o amgylch y placiau, gan rannu’r map i bob cartref a busnes yn y Dre.

Felly, edrychwch allan am y placiau pan fyddwch o gwmpas y Dre, a gwnewch yn siwr eich bod yn derbyn copi o’r map, i chi gael trefnu taith i ddysgu llawer mwy am Gaernarfon.

Richard Jones, Cadeirydd Cymdeithas Ddinesog Caernarfon. Rhif ffôn – 0786 769 1544

Linc Lleoliadau y Placiau Llechi o amgylch Caernarfon