Raffl ’Dolig Twthill

Ar gael ar noson ’Dolig Twthill

Grŵp Cymunedol Twthill
gan Grŵp Cymunedol Twthill
264708891_10208676486907072

Gwobrau Raffl ’Dolig Twthill

Mae Grŵp Cymunedol Twthill yn cynnal raffl ’Dolig, gyda’r holl arian yn mynd at gefnogi gwaith y grŵp.

Bydd un tocyn yn £1 ac ar werth wrth y gwin cynnes ar noson Nadoligaidd cyntaf erioed Twthill. Bydd y dathliad yn cael ei gynnal ar y sgwâr ar y 13eg o Ragfyr am 18:00, ac mae croeso i bawb ymuno i ganu ambell garol i gyfeiliant offerynwyr lleol. Bydd mins pei a gwin cynnes ar gael.

Hoffai’r grŵp ddiolch o galon i’r busnesau lleol am gefnogi:

  • Blanced wedi ei wneud efo llaw gan Janice Roberts, Twthill.
  • Hamper gan Glena Davies, Twthill.
  • Pysgod a ‘Sglodion i ddau o Siop Cae, Twthill.
  • Potel o win o Siop Malcolm, Twthill.
  • Tocyn i 2 oedolyn a 2 blentyn i’r Hwylfan, Caernarfon.
  • Llyfr coginio Cegin gan Nici Beech, Twthill.
  • Addurn gan Cyfarchion, Stryd y Plas.
  • Set ymolchi moethus gan Janice Roberts, Twthill.