“Rydyn ni eisiau i bawb oroesi’r cyfnod yma, a dod allan ohono fo yn gryfach ac yn fwy penderfynol nag erioed”

Galwadau cynyddol i flaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer y sector lletygarwch

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae galwadau cynyddol ymhlith gwleidyddion a pherchnogion busnes i roi blaenoriaeth i oroesiad y sector lletygarwch.

Ddoe (Chwefror 18), mae llefarydd Trysorlys Plaid Cymru, Ben Lake AS, wedi annog y Canghellor, Rishi Sunak, i ymestyn y cynllun ffyrlo a chadw’r gyfradd Terth Ar Werth is ar gyfer y sector hyd at fis Mawrth 2022.

Hefyd, mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, Amanda Jenner, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yr Economi Cymru, Ken Skates, i leisio pryderon.

“Dod allan ohono fo yn gryfach”

I Deborah Sagar, perchennog siop a chaffi Bonta Deli yng Nghaernarfon, byddai cynnal y gefnogaeth ariannol hwn am gyfnod estynedig yn darparu rhywfaint o sicrwydd i ddyfodol busnesau o fewn y sector.

Dywedodd hefyd y byddai’n rhoi’r cyfle a’r hyder i’r diwydiant adfer yn sgil effeithiau’r pandemig.

“Mae’r gefnogaeth yma mor bwysig,” meddai Deborah Sagar.

“… er mwyn sicrhau goroesiad busnesau ac i bobl gael y sicrwydd bod modd iddyn nhw gynnal eu staff ac i staff wybod bod ganddyn nhw swydd i ddod yn ôl iddi.

“Mae’r sector lletygarwch yn rhan mor annatod o’n cymunedau ni – rydyn ni eisiau i bawb oroesi’r cyfnod yma, a dod allan ohono fo yn gryfach ac yn fwy penderfynol nag erioed.

“Wrth gerdded o amgylch y dref, mae hi mor dawel ac mewn un ffordd mae hynny’n beth da – am fod pobol yn gwrando ac yn aros adref, ond mae o’n drist ofnadwy hefyd.

Teimla Deborah fod y diwydiant angen amser i sefydlogi yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd, cyn bod modd ail-edrych ar ddiwygio unrhyw gymorth ariannol.

“Mae’n hanfodol galluogi’r sector lletygarwch i ail-agor cyn gynted â phosibl – pan fod hi’n saff i wneud hynny.

“Er lles y bobl leol hefyd, byddai gallu mynd allan a chael sgwrs yn yr haul neu’r tu allan i’r dafarn yn wych,” meddai.

“Mae’r cyfnod clo diwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl.”

Mae modd darllen mwy fan hyn.