‘Nos Sadwrn fach’: lle fyddwch chi’n mynd?

Ydych chi’n defnyddio’r dywediad?

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Un o ymadroddion llawr gwlad Arfon yw ymadrodd yr wythnos Ar Goedd yr wythnos hon.

Mae’r ymadrodd ‘nos Sadwrn fach’ yn ymadrodd ar lafar sy’n cyfeirio at nos Fercher.

Mae’r ymadrodd yn sôn am nos Fercher fel noson i ddathlu’r ffaith eich bod chi hanner ffordd drwy’r wythnos.

Mae’r ymadrodd Saesneg “hump day” yn cyfateb i’r ymadrodd, ond mae’r fersiwn Cymraeg lot gwell, yntdi?!