Sesiynau crefft gyda Lora

Ymunwch â Lora mewn cyfres o sesiynau crefft i blant 8-11 oed.

Bydd Lora Morgan o Siop Siafins yn eich arwain trwy 4 sesiwn lle byddwch yn creu rhywbeth gwahanol bob tro. Beth am roi cynnig arni!?

Bydd y sesiynau yn canolbwyntio ar:
Printio gyda llysiau
Ffeltio
Pom Pom Pasg
Chwythwr

Bydd pob plentyn yn derbyn pecyn o nwyddau i ddefnyddio yn y sesiynau trwy’r post. Rhaid ymuno â phob sesiwn.

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams ar Chwefror 24, Mawrth 3ydd, Mawrth 10fed, a Mawrth 17fed. Bydd pob sesiwn yn cychwyn am 2pm.

 

I gofrestru, e-bostiwch ffionstrong@gwynedd.llyw.cymru