Teyrnged Côr Dre i godi arian at elusen

Mae’r côr wedi disgrifio’r gân fel “teyrnged arbennig i ganeuon elusennol yr 80au”

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Côr Dre, un o gorau Caernarfon wedi recordio eu fersiwn eu hunain o’r gân enwog Dwylo Dros y Môr, er mwyn codi arian at Sefydliad Cymunedol Cymru.

Rhyddhawyd y gân yn wreiddiol yn 1985 fel cân elusennol er mwyn codi arian i bobl a oedd newynu yn Ethiopia.

Ymhlith y cantorion sy’n ymddangos yn y fersiwn wreiddiol mae Geraint Jarman, Huw Chiswell a Caryl Parry Jones.

Bu Seiriol Dawes-Hughes, cadeirydd y côr, yn siarad ar raglen Marci G, a dywedodd ei fod yn “dipyn o sioc i glywed ein fersiwn ni o’r gân ar BBC Radio Cymru!”

Mae cysylltiadau arbennig rhwng y côr a’r fersiwn wreiddiol, ac mae’r arweinydd, Siân Wheway yn ymddangos yn fersiwn 1985.

Mae’r côr bellach wedi rhagori ar eu targed gwreiddiol ac wedi codi £400 i’r elusen. Gallwch chi gyfrannu drwy ddilyn y ddolen hon.

Perfformiwyd y gân gyda chaniatâd Recordiau Ar Log a Huw Chiswell