gan
Osian Wyn Owen
Mae digwyddiad wedi ei drefnu ar 26 Mehefin er mwyn “cadw cymuned Twthill yn lân a thaclus.”
Mae’r digwyddiad Twthill Taclus yn cyfarfod am awran er mwyn codi ychydig o sbwriel ddiwedd y mis. Mae’r criw yn gobeithio y gallai’r digwyddiad arwain at rywbeth mwy cyson.
Bydd y sesiwn cyntaf yn cael ei gynnal fore Sadwrn 26 Mehefin am 10yb, ac mae croeso i unrhyw un ymuno.
Bydd yr holl offer yn cael ei ddarparu, a bydd y sesiwn yn dechrau yn Sgwâr Twthill.