Efallai eich bod wedi clywed am feinciau lliwgar yn ymddangos mewn rhai o ardaloedd yng Ngwynedd dros y misoedd diwethaf. O feinciau glas yn cynnwys hanes lleol yng Nghriccieth i fainc yn dathlu ymweliad y Beatles ym Mangor, mae pob un ag un bwriad – dod â phobl ynghyd. Gardd gymunedol Byw’n Iach tu allan i Ganolfan Byw’n Iach Arfon bydd lleoliad mainc Caernarfon.
Pwrpas y meinciau cyfeillgarwch yw bod yn fan diogel y gall pobl eistedd arnynt os yn unig fel gwahoddiad am sgwrs. Mae’r meinciau hefyd yn lliwgar ac yn ddathliad o hanes lleol.
Mae’r meinciau yn rhan o raglen gwaith Pontio’r Cenedlaethau a Llwybrau Llesiant, sef dau dîm o fewn Cyngor Gwynedd. Mae pob mainc yn gweithio ag amryw o grwpiau lleol ac artist lleol yn casglu gwybodaeth cyn mynd i’r afael a’r dyluniad.
A hoffech chi ymuno yn y broses o helpu’r artist Menai Rowlands i feddwl am ddyluniad i’r fainc yng Nghaernarfon?
Bydd gweithdy yn cael ei gynnal rhwng 2yh a 4yh Ddydd Gwener yma’r 9fed o Orffennaf. Mae llefydd yn brin felly cyntaf i’r felin – e-bostiwch erylpricewilliams@gwynedd.llyw.cymru neu mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru i ymuno yn y gweithdy.
Dyma linciau i ddysgu mwy am rhai o’r meinciau eraill:
https://www.thebangoraye.com/love-me-do-friendship-bench-celebrates-the-beatles-visit-to-bangor/