Ymunwch â gweithdy i ddylunio Mainc Gyfeillgarwch Caernarfon!

Mae 6 mainc cyfeillgarwch wedi’i cwblhau yng Ngwynedd hyd yma a Caernarfon yw’r nesaf!

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Efallai eich bod wedi clywed am feinciau lliwgar yn ymddangos mewn rhai o ardaloedd yng Ngwynedd dros y misoedd diwethaf. O feinciau glas yn cynnwys hanes lleol yng Nghriccieth i fainc yn dathlu ymweliad y Beatles ym Mangor, mae pob un ag un bwriad – dod â phobl ynghyd. Gardd gymunedol Byw’n Iach tu allan i Ganolfan Byw’n Iach Arfon bydd lleoliad mainc Caernarfon.

Pwrpas y meinciau cyfeillgarwch yw bod yn fan diogel y gall pobl eistedd arnynt os yn unig fel gwahoddiad am sgwrs. Mae’r meinciau hefyd yn lliwgar ac yn ddathliad o hanes lleol.

Mae’r meinciau yn rhan o raglen gwaith Pontio’r Cenedlaethau a Llwybrau Llesiant, sef dau dîm o fewn Cyngor Gwynedd. Mae pob mainc yn gweithio ag amryw o grwpiau lleol ac artist lleol yn casglu gwybodaeth cyn mynd i’r afael a’r dyluniad.

A hoffech chi ymuno yn y broses o helpu’r artist Menai Rowlands i feddwl am ddyluniad i’r fainc yng Nghaernarfon?

Bydd gweithdy yn cael ei gynnal rhwng 2yh a 4yh Ddydd Gwener yma’r 9fed o Orffennaf. Mae llefydd yn brin felly cyntaf i’r felin – e-bostiwch erylpricewilliams@gwynedd.llyw.cymru neu mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru i ymuno yn y gweithdy.

Dyma linciau i ddysgu mwy am rhai o’r meinciau eraill:

https://www.thebangoraye.com/love-me-do-friendship-bench-celebrates-the-beatles-visit-to-bangor/

https://www.inyourarea.co.uk/news/adnewyddu-meinciau-cyfeillgarwch-yng-nghriccieth-er-mwyn-pontior-cenedlaethau/