Dim Ysgol: Maesincla yn cipio gwobr

Mae rhaglen Dim Ysgol: Maesincla wedi ennill gwobr yng ngwobrau Broadcast yr wythnos hon

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae’r rhaglen Dim Ysgol: Maesincla wedi ennill gwobr Rhaglen Orau’r Cyfnod Clo yng ngwobrau Broadcast neithiwr.

Mae’r rhaglen, Dim Ysgol: Maesincla, yn dilyn plant Ysgol Maesincla, Caernarfon wrth iddynt ymdopi gyda’r cyfnod clo cyntaf yn sgil Covid-19. Mae’r rhaglen yn cynnig golwg o safbwynt yr athrawon wrth iddynt ddod i’r afael â dysgu o bell tra’n ceisio sicrhau bod y plant yn parhau i dderbyn cymorth angenrheidiol, ac yn cynnig safbwynt y plant sy’n hiraethu am eu ffrindiau.

Yn ôl y beirniaid mae’r rhaglen ddogfen yn rhoi “mynediad prin i gymuned nad ydym fel arfer yn ei gweld ar ein sgrîn.”

Cliciwch yma i weld clip o’r rhaglen.