Agoriad Clyd a chroeso cynnes

Clyd yn agor siop yn Cei Llechi

gan Elliw Llyr

Mae Linette yn paratoi ar gyfer agor siop Clyd, nos Wener yma ac mewn sgwrs mae hi yn egluro ’chydig o hanes cyrraedd y pwynt o agor siop yn ogystal â gwerthu ar lein.

Dywedodd Linette ’mae wedi bod yn siwrne hir i gyrraedd y pwynt yma, wythnos ar ôl derbyn goriadau i’r siop ym mis Tachwedd, cawsom y newyddion ofnadwy fod gan Ifan, ein mab, tiwmors ar ei arenau. Mae’n gwneud yn dda ac yn parhau i gael triniaeth ar hun o bryd yn wythnosol yn Lerpwl’

Pam agor Siop yng Nghaernarfon?

‘I mi does unman yn debyg i Gaernarfon. Mae’n dref llawn bwrlwm a gwastad rhywun i godi llaw arnynt neu gael sgwrs. Mae na gymuned yn Gaernarfon o pobl sydd isio cefnogi busnesau bach, a hun yn amlwg o’r holl busnesau bach llwyddiannus sydd yn y dref. Yr olygfa wrth i chi gamu allan o’r siop tuag at y cei a’r castell ydi’r ‘icing on the cake’ i mi’

Ac yn olaf, pam fod siopio yn lleol yn bwysig?

‘Mae siopa’n lleol yn bwysig iawn i mi a dwi di gwneud ‘pledge’ i siopa’n fach ers sawl blwyddyn bellach mi mae’r dewis o cynnyrch yn llawer iawn gwell, ac mae’n bosib dod o hyd i drysorau bach. Ond yn fwy na hun ’ma siopa’n fach yn golygu cefnogi teuluoedd, pobl leol a’r gymuned. Yn aml iawn mae’n golygu cefnogi breuddwyd rhywun hefyd!’

Pob lwc i siop Clyd a cofiwch alw draw