Alfie yn Cicio Canser ⚽

1000 o ‘keepy ups’ pob dydd am fis!

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Mae bachgen ifanc o Gaernarfon yn mynd i gwblhau 1000 o ‘keepy-ups’ bob dydd ym mis Tachwedd i helpu godi arian i chanser y coluddyn ar gyfer Cronfa Bobby Moore.

Mae Alfie yn ddisgybl blwyddyn 8, Ysgol Syr Hugh Owen ac wrth ei fodd efo pel droed. Cafodd ei ysbydoli gan Harry Kane i gyflawni y sialens yma a ma’ Alfie yn brysur mynd ati i sicrhau cyflawni 1000 o ‘keepy ups’ pob diwrnod – tipyn o sialens!!

Bydd 100% o’r arian a godir yn mynd tuag at ariannu ymchwil arloesol i ganser y coluddyn.

Dangoswch eich cefnogaeth drwy gyfrannu be y gallwch tuag at ymgyrch Alfie! ⚽

Dal Ati Alfie! 💪🏼

https://fundraise.cancerresearchuk.org/page/alfies-bobby-moore-fund-keepy-uppy-challenge-giving-page-17