Arddangosfa Katie Hughes

Oriel newydd yn agor

gan Elliw Llyr
image-1

Logo Katie Hughes

image-2

Katie Hughes a’i lluniau

image-3

Oriel newydd Katie Hughes

image-4

Rhai o luniau Katie Hughes

Mae artist ifanc, Katie Hughes yn agor stiwdio yn 1 De Penrallt, Caernarfon nos Sadwrn yma, 3 Rhagfyr rhwng 7 a 10pm. Bydd cyfle i weld ei lluniau,cael 20% i ffwrdd hefo diod a danteithion am ddim i bawb.

Mae Katie yn peintio lluniau haniaethol gan ddefnyddio cymysgedd baent, olew a spraypaint i greu ei lluniau. Disgrifiodd ei hun fel ‘artist hunanaddysgiedig Cymraeg, gyda bwriad o amlygu harddwch bob corff o unrhyw faint neu siâp. Rwyf wedi agor oriel yng Nghaernarfon yn y gobaith o wneud argraff ar y boblogaeth leol’.

Mae Katie wedi cael ei chyfweld yn flaenorol gan Britain Uncovered ac arddangos yn Oriel Carn, Caernarfon ac yn Llundain fel rhan o arddangosfa Censor Me I Dare You.