gan
Warws Werdd
Mae Warws Werdd yn falch o allu ymuno â Caernarfon360 er mwyn rhoi blas ichi bob hyn a hyn o’r eitemau sydd ar gael yma.
Wedi’i sefydlu yn 2004, mae’r Warws Werdd yn rhan o deulu o fusnesau Antur Waunfawr. Mae’r Warws yn gwerthu dodrefn, nwyddau gwyn a dillad ail-law, yn ogystal ag eitemau eraill.
Yr wythnos hon mae MJ yn rhoi taith tywys fer inni o ambell ddodrefnyn sydd ar gael yr wythnos hon.
Dewch draw i’n gweld yn Warws Werdd, Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2BD.