Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Siop Iard,Gaernarfon
Gwobrau gwych bingo gemwaith
Gwerthu sgwaria ar y diwrnod!
Fe wnaeth Siop Iard, Caernarfon gael syniad gwych i gasglu arian at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn ystod Gŵyl Fwyd drwy gynnal Bingo Gemwaith.
Dywedodd Angela eu bod eisiau gwneud rhywbeth gwahanol oedd yn mynd i gasglu dipyn o bres,£500, mewn un diwrnod ac yn rhoi cyfle i bobl ennill gwobr werth ei chael. Roedd cyfle i ddewis sgwâr gyda 5 lwcus yn cael gemwaith a wnaed â llaw o’r Siop. Roedd pob gemwaith werth dros £80 yr un-ddim rhy ddrwg am sgwaryn oedd yn costio £10!
Fe werthwyd hefyd glasiad o Prosecco gydag elw hwnnw yn mynd at DEC, fe gasglwyd £216 ar y diwrnod yn gymorth i Wcrain.