Yn y blog heddiw: sgwrsio gyda’r stondinwyr, cip ar yr adloniant, a chasglu barn y bobol am yr ŵyl a’r bwyd!
Ydach chi yma?
Cofiwch ‘ychwanegu diweddariad’ eich hun – lluniau, fideos, sylwadau am bopeth i wneud â’r ŵyl.
Gorymdaith gan Batala yn codi sŵn.
“Dwi’n edrych ymlaen i wylio Bwncath ar y llwyfan! A gafodd ffrind fy mrawd i snowcone oedd yn fwy na’i ben o!”
– Gwion, 7 oed o’r Felinheli.
‘Chydig mwy o lunia
Torf yng Nghaernarfon!
Wedi prysuro’n ofnadwy yma – dewch draw i weld yr holl stondinau!
“Dwi’n edrych ymlaen i gael gweld fy ffrindiau ysgol yma ar ôl peidio’u gweld nhw ers misoedd oberwydd y brifysgol. Bwyd da, cwrw da a chwmni gwell!”
-Enlli Jones, Groeslon.
Batala Bangor yn barod i fynd amdani!
Mae yna stondinau bwyd a gweithgareddau ar hyd a lled y dref!