Cadw’n Heini Dros yr Wŷl 🏋🏻‍♂

L&A The Fitness People 

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Cyfweliad gyda perchnogion L&A The Fitness People yng Nghaernarfon 🏋🏻‍♂

Dywedwch dipyn amdanoch chi a’ch busnes?

Ni yw Luke & Arron, L&A The Fitness People ac rydym yn cynnal dosbarthiadau ffitrwydd a chryfder o’n campfa yn Cibyn, Caernarfon. Rydym yn hyfforddwyr personol cymwysedig ac yn hyfforddwyr ar-lein. Mae gennym hefyd gymwysterau mewn maeth, ymarfer corff i’r henoed, hyfforddiant cyn ac ar ôl geni, bocsymarfer ac rydym ill dau yn gystadleuwyr mewn rhwyfo Hyrox a Dan Do.

Beth oedd eich gobeithion?

Pan adawon ni’r ysgol fe ddechreuon ni weithio yn y diwydiant fwy neu lai. Naill ai o fewn cyfleuster iechyd a ffitrwydd neu ar ffurf hyfforddiant i dimau chwaraeon lleol. Fe wnaethon ni gwblhau ein cymhwysterau a dechrau helpu pobl wyneb yn wyneb.

Ein prif nod oedd cael ein cyfleuster ein hunain ac yn y pen draw symud ymlaen ar-lein i helpu pobl ymhellach i ffwrdd.

Sut ddechreuodd y fenter L&A The Fitness People?

Fe ddechreuon ni ein busnes yn defnyddio’r awyr agored i ddechrau, ar y trac beicio tu ôl i Morrisons yng Nghaernarfon. Symudon ni wedyn i neuadd gymunedol leol, yna’r clwb bocsio lleol cyn symud o’r diwedd i’n cyfleuster ein hunain y stad ddiwydiannol Cibyn yn Gaernarfon.

Sut wnaethoch chi wneud newid ac addasu yn ystod y cyfnod clo?

Cyflwynwyd ein busnes un i un naill ai y tu allan, yn nhŷ’r cleient neu o’n stiwdio breifat. Pan ddaeth y cyfnod clo aethom â’n busnes ar-lein gan ddarparu atebolrwydd a dosbarthiadau byw trwy ein grŵp Facebook preifat. Roedd hyn yn ein galluogi i barhau i helpu ein cleientiaid ac aelodau yn ogystal ag adeiladu ymddiriedaeth a rhoi gwerth yn barod ar gyfer pan oeddem yn gallu ail-agor. Ar ôl i’r cyfnod clo orffen penderfynon ni greu ein gwasanaeth hyfforddi ar-lein.

Mae hyn ochr yn ochr â’n dosbarthiadau yn cynnig y gwasanaethau iechyd a ffitrwydd gorau oll i’r gymuned leol ac yn awr, ledled y byd. Bellach mae gennym gleientiaid o Gaernarfon, Canada, UDA, yr Almaen ac Awstralia.

Sut all unrhyw un gysylltu gyda chi i holi mwy?

Mae’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol wedi ein galluogi i ddarparu ein gwasanaethau ledled y byd.
Mae modd cysylltu â ni trwy Facebook ac Instagram yn ogystal ag e-bost a ffôn symudol. Mae gennym ein system archebu ein hunain trwy Go Team Up yn ogystal â grŵp Facebook preifat.

Oes ganddoch chi ‘Top Tips’ ar gyfer cadw’n heini dros gyfnod y Nadolig?

Gall amser dros y Nadolig fod yn straen ceisio aros ar y trywydd iawn gyda’n hiechyd a’n ffitrwydd.

Ein cyngor gorau fyddai cynllunio ymlaen llaw, gwneud pethau’n gyntaf yn y bore a gosod eich safon a’ch targedau ar gyfer y mis cyn i’r prif ddathliadau ddechrau.

Yn ogystal â’r cynllun hwnnw ar gyfer Ionawr, byddwch yn barod i ddechrau eto o’r 2il. Rydym yma hefyd yn ystod mis Rhagfyr i helpu a rhoi cyngor felly os oes angen ni cysylltwch â ni.

Rydym yn cynnal 18+ o ddosbarthiadau yr wythnos ac yn cynnig opsiwn talu pob sesiwn wrth fynd yn ogystal ag aelodaeth sy’n rhoi mynediad llawn i chi i’n holl ddosbarthiadau.

Mae ein gwasanaethau ar-lein wedi’u teilwra’n arbennig, ac os oes gennych ddiddordeb, anfonwch neges atom a byddwn yn trefnu galwad.

🏃🏼‍♀🏃🏻🏃🏼‍♂🏃🏼‍♀🏃🏻🏃🏼‍♂🏃🏼‍♀🏃🏻🏃🏼‍♂🏃🏼‍