Caernarfon yn ychwanegu dau wyneb newydd i’w carfan

Gyda’r ffenest trosglwyddo wedi agor i glybiau yng Nghymru, mae Caernarfon wedi mynd ati i adio dau chwaraewr newydd i’w carfan ar gyfer tymor 2022/23.

gan Jordan Thomas
James Owen sydd wedi arwyddo i Gaernarfon o Gei Conna

Yn ymuno gyda’r Cofis mae James Owen a Ben Wynne. Mae gan y ddau brofiad blaenorol o chwarae yn y JD Premier Cymru a byddant yn sicr yn ychwanegu i opsiynau Huw Griffiths.

Mae Owen yn chwaraewr profiadol dros ben. Yn rhan annatod o garfan Cei Conna wnaeth ennill yr uwch gynghrair yn 2019/20 a 20/21. Cyn arwyddo gyda Chei Conna yn 2016, fe roedd yn chwarae ei bêl-droed gyda Airbus UK. Mae’n chwaraewr canol cae sydd yn medru chwarae mewn amryw o safleoedd yng nghanol y cae. Yn wreiddiol o ardal Caernarfon, bydd yn wyneb cyfarwydd i’r cefnogwyr ac yn dangos fod Huw Griffiths yn cario mlaen efo’i weledigaeth o roi cyfle i chwaraewyr gorau’r ardal.

Mae Ben Wynne wedi arwyddo o Aberystwyth. Yn ugain oed, Caernarfon fydd y trydydd clwb o’r JD Cymru Premier i’r gŵr ifanc ymuno gydag ar ôl Derwyddon Cefn ac Aberystwyth. Felly er ei oed, mae ganddo brofiad da o chwarae pêl-droed uwch gynghrair yn barod. Gyda digon o gyflymder i drwblu amddiffynfeydd, fe fydd Wynne yn ychwanegu at opsiynau ymosodol Caernarfon. Roedd Wynne yn un o sêr Aberystwyth yn ail ran tymor diwethaf wrth iddynt oroesi disgyn o’r gynghrair.

Mae Caernarfon eisoes wedi arwydd Joe Faux ar gytundeb parhaol ar ôl cyfnod o fenthyg y tymor diwethaf ac fe fydd James Owen a Ben Wynne yn sicr o gryfhau carfan Huw Griffiths tra hefyd yn cynnig rhywbeth gwahanol wrth i Gaernarfon edrych ymlaen am dymor gwahanol dro yma wrthynt gymryd rhan yng Nghwpan Her yr Alban. Mae’r clwb wedi sefydlu ei hunain fel un o’r chwech uchaf yn y JD Cymru Premier a bydd y wynebau newydd yn siŵr o eisiau cadw hynny i fynd.