Celyn yn concro’r Wyddfa

Codi arian i Codi’r To

gan Carys Bowen

Llongyfarchiadau mawr i Celyn Williams am goncro’r Wyddfa i godi arian ar gyfer Codi’r To yn ddiweddar.

Mae Celyn newydd orffen Blwyddyn 6 yn Ysgol Maesincla ac wedi bod yn derbyn gwersi cerddoriaeth wythnosol gan diwtoriaid prosiect Codi’r To ers 5 mlynedd.

Dywedodd Celyn,

“Mae gen i feddwl y byd o Codi’r To, a dwi wedi cael pob math o brofiadau newydd efo nhw, dysgu chwarae’r corn a samba, trip i Gaerdydd i berfformio yng Nghanolfan y Mileniwm, cyngherddau yn Galeri a thrip band i wersyll yr Urdd, Glan-llyn gyda fy ffrindiau.”

Mae Sistema Cymru – Codi’r To yn brosiect cerdd cymunedol sydd yn dod a’r ddull El Sistema fyd enwog i ogledd Cymru. Mae tiwtoriaid cerdd proffesiynol yn gweithio yn Ysgol Maesincla ac Ysgol Glancegin ym Mangor yn arwain Band Pres a Samba.

Yn ystod y cyfnod clo, cynhaliwyd gwersi offerynnol un i un ar lein i ddisgyblion y clwb ar ôl ysgol ac roedd Celyn yn edrych ymlaen bob wythnos i gael gwers gyda’n tiwtor Bari Gwilliam, “Mae Codi’r To yn codi calon ac yn fy nghwneud i’n hapus felly wnes i benderfynu ddiolch iddyn nhw drwy godi arian a cherdded i fyny’r Wyddfa gyda fy nheulu. Rwy’n gobeithio dal i fynd i Glwb Codi’r To ar ôl symud i Ysgol Syr Hugh Owen.”

Elusen yw Codi’r To sydd yn dibynnu yn flynyddol ar grantiau gan arianwyr a rhoddion gan deuluoedd a ffrindiau Codi’r To. Mewn adroddiad gwerthuso diweddar, cyhoeddodd Prifysgol Bangor bod pob £1 sydd yn cael ei fuddsoddi yn Codi’r To werth £6.69 i’r gymuned. Os hoffwch gyfrannu at yr elusen i gefnogi’r gwaith ac i sicrhau parhad y prosiect, gallwch wneud ar y wefan yma.