Cisg Gwynedd Ar Agor ?

Cyngor Gwynedd yn Cyhoeddi fod Cronfa Cefnogi Cymunedau Ar Agor 

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Cyngor Gwynedd yn Cyhoeddi fod Cronfa Cefnogi Cymunedau Ar Agor ?

Agor y Gist – Cist Gwynedd 2022/23:

Grantiau cyfalaf a refeniw ar gael i grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd 

Mae grwpiau gwirfoddol a chymunedol Gwynedd yn cael eu hannog i ystyried gwneud cais am grantiau refeniw a chyfalaf i gefnogi amrywiol brosiectau fydd yn arwain at wella safon bywyd trigolion a chymunedau’r sir.

Mae Cronfa Cefnogi Cymunedau, Cist Gwynedd, yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i annog cymunedau i wireddu’r amcanion hyn drwy gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu cymunedau.

Yn ogystal, mae Cronfa’r Degwm yn cynnig grantiau rhwng £3,000 a £5,000 i elusennau cofrestredig. Mae canran o’r Gronfa yn cael ei ddosbarthu i eisteddfodau lleol yng Ngwynedd, sef swm o £300, a dylid ymgeisio drwy anfon e-bost ynghyd a chopi o ddatganiad banc diweddar i Swyddog Cist Gwynedd (CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru).

Mae pecynnau ymgeisio ar gyfer y cronfeydd yma ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: 

Cronfa Cefnogi Cymunedau:www.gwynedd.llyw.cymru/cronfacefnogicymunedau

Cronfa’r Degwm:www.gwynedd.llyw.cymru/cronfardegwm

Meddai Sioned Williams, Pennaeth Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd:

“Mae grantiau Cist Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n arwain at gryfhau cymunedau ledled y sir. Mae’n cynnig cyfle i drigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau eu hunain.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cronfa Cefnogi Cymunedau yw 13 Mai 2022. Mae’r ddwy gronfa ar agor, a derbynnir ceisiadau drwy e-bost yn unig. Mae ffurflen gais ar gael ar wefan y Cyngor, neu cysylltwch gyda’r swyddfa. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch gyda swyddfa Cist Gwynedd ar ebost: CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679 153.