Clwb Darllen Caernarfon

Hoffi darllen? Ymunwch hefo ni fis Tachwedd!

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Wyt ti’n hoffi darllen? Wyt ti’n mynd yn rhwystredig nad ydy dy ffrindiau’n darllen yr un llyfrau â ti – a tithau’n ysu i drafod cynnwys y llyfr? Wel, dyma’r ateb i ti…

Mae Clwb Darllen Caernarfon yn cyfarfod am y tro cyntaf fis Tachwedd ac mae croeso cynnes i bawb!

Y llyfr cyntaf y bydd y Clwb yn ei drafod bydd ‘Sgen i’m Syniad’ sef nofel newydd sbon gan Gwenllian Ellis. Hwn yw llyfr cyntaf Gwenllian a mae digon o hwyl i’w gael wrth ei ddarllen!

Dyma ddisgrifiad byr o gynnwys y llyfr:

Dyma lyfr am ffrindiau, teulu, tyfu fyny yng ngogledd Cymru, teimlo fel bo chdi’n cael dy adael ar ol, snogio, secs, y gwersi ti’n ddysgu ar y ffordd a’r bobl sy’n dy gario di pan doeddach chdi ddim hyd yn oed yn gwybod bo chdi angen cael dy gario.

Llyfr am ffeindio sens pan sgen ti’m syniad.

Ymuna efo ni ar yr 8fed o Dachwedd, am 7yh yn Llety Arall!