Mae hi’n 35 mlynedd ers i Gaernarfon chwarae yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr yn 1987.
Roedd y Caneris yn chwarae yn Uwch Gynghrair Gogledd Lloegr yn nhymor 1986/1987, gan na chafodd Uwch gynghrair Pêl-droed Cymru ei ffurfio tan 1991.
Roedd y tîm enwog hwnnw yn cynnwys yr ymosodwyr Austin Salmon a Steve Craven – wnaeth sgorio 12 gôl rhyngddyn nhw yn ystod rhediad Caernarfon yn y Gwpan.
Hefyd yn aelodau o’r garfan oedd y Cymry Huw Williams, gynt o Wrecsam; Gwyn Peris Jones, gynt o Ddinas Bangor a Glyn Griffiths, hefyd o Wrecsam.
Ond arwr mawr y Cofis oedd ei rheolwr, John King, sy’n dal i gael ei adnabod fel arwr yr Ofal.
Aeth ymlaen i fod yn rheolwr ar Tranmere, ac ef oedd wrth y llyw yn ystod eu cyfnod mwyaf llwyddiannus nhw hefyd.
Bu farw yn 77 oed yn 2016.
Y rhediad
Llwyddodd Caernarfon i guro Stockport County o’r Bedwaredd Adran ar yr Ofal yn rownd gyntaf y Gwpan.
Yna aethon nhw ymlaen i drechu York City o’r Drydedd Adran ar ôl ail chwarae.
Barnsley – o’r ail adran – oedd y gwrthwynebwyr yn y drydedd rownd ac fe heidiodd 3,000 o bobl i’r Ofal i weld y Cofis yn cael gêm gyfartal 0-0 a sicrhau gêm ail-chwarae yn Oakwell.
Mae modd gweld uchafbwyntiau’r gêm gartref yn erbyn Barnsley fan hyn.
Colli o 1-0 oedd ffawd Caernarfon yn y gêm oddi-cartref, ond mae’r tîm yn dal i gael eu cofio fel arwyr 35 mlynedd yn ddiweddarach.
Yn ddiweddar, cafodd murlun o John King ei beintio ar yr Ofal er cof amdano a’r atgofion a roddodd i gefnogwyr Caernarfon.