Y Cofi yn Cofio! Trychineb Aer Lingus St Kevin

Dafydd Ellis a Hywyn Roberts sydd wedi talu teyrnged 70 mlynedd i’r diwrnod trychinebus

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
35E0DEFA-DA64-402B-A305
F10DD411-DD6B-4340-887E
D7276115-50E0-4171-A60D
7DB86E7B-AF5C-4E4F-93A2
AC008F74-6935-48C4-96AF

Mewn damwain awyren 70 mlynedd yn ôl bu farw 23 o bobl, ac mae’n parhau i fod y digwyddiad gwaethaf o’i fath i ddigwydd yng Ngogledd Cymru. Roedd yr Aer Lingus C47 Dakota wedi bod yn teithio o Faes Awyr Northolt yn Llundain i Ddulyn ar noson 10 Ionawr 1952 pan darodd mewn damwain i Gwm Edno ar lethrau Moel Siabod.

Cafodd yr awyren, o’r enw St Kevin, ei dal mewn trafferthion mawr wrth iddi hedfan drwy Eryri, ac esboniwyd y ddamwain yn ddiweddarach mewn ymchwiliad fel un a achoswyd gan “lif aer pwerus”, a arweiniodd at yr awyren yn colli swm sylweddol o uchder mewn byr iawn o amser, a tharo ochr y mynydd ger Llyn Gwynant.

Cyflwynwyd golygfa ddinistriol. Daeth achubwyr o hyd i’r llongddrylliad tanbaid wedi’i wasgaru dros gors a ffurfiwyd gan Afon Edno, ac roedd yn amlwg o’r cychwyn na allai fod unrhyw un wedi goroesi. Aeth aelodau o Wasanaeth Tân Sir Gaernarfon, sef y rhai cyntaf i weld y trychineb, yn rhydio’n ddwfn drwy’r gors i wneud cymaint o gymorth ag y gallent.

Cafodd y gwaith o chwilio am gyrff y 23 o ddioddefwyr ei ohirio yn y pen draw ar ôl pump diwrnod o chwilio mewn amgylchiadau brawychus. Ysgwydodd Capten Scott, prif beiriannydd Aer Lingus, ddwylo â phob aelod o’r parti adfer, gan ddweud wrthyn nhw: “Rydych chi wedi gwneud gwaith gwych o dan amodau ofnadwy.” Cafodd y cyrff a gafodd eu hadfer yn ddiweddarach o Ysbyty Eryri Caernarfon i Ddulyn drwy RAF Fali.

Canmolodd Mr J Dargan o Aer Lingus drigolion lleol am eu hymdrechion: “Mae pobl yr ardal wedi bod yn fendigedig. Cawsom ein rhyfeddu gan y cydweithrediad a gafwyd gan bawb, a chymwynasgarwch a gwaith caled yr heddlu, y gwasanaeth tân, a phersonél yr Awyrlu Brenhinol.”

Dywedodd Dr E Gerald Evans, patholegydd Bwrdd Ysbytai Rhanbarthol Cymru a’r Swyddfa Gartref, wrth agor yr ymchwiliad fod y tri aelod o’r criw a’r 20 teithiwr wedi marw ar unwaith, gan ychwanegu bod y cyrff wedi eu hanffurfio gan effaith y ddamwain.

Claddwyd deuddeg o’r dioddefwyr yn Mynwent Llanbeblig yng Nghaernarfon, wedi’i nodi â charreg fedd i goffau’r ddamwain ddinistriol a ysgydwodd y sir. Cafodd cofeb garreg ei gosod yn y ddaear ger safle’r ddamwain yng Nghwm Edno ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Penderfynodd Dafydd Ellis o Gaernarfon a Hywyn Roberts i dalu teyrngerd olaf i’r 23 o deithwyr a fu farw ar awyren Aer Lingus Saint Kevin Shamrock 165 ar 10/01/1952 am tua 19.30 o’r gloch.

Ymwelodd y ddau â’r bedd yn Llanbeblig, Caernarfon yn gyntaf – fel ddangosir yn y lluniau – gan ddarllen yr enwau rhestredig hynny ar y bedd wrth ei lanhau ac adlewyrchu ar y bobl ryfeddol a thalentog oedd ar yr awyren y diwrnod hwnnw.

Cafodd Dafydd a Hywyn ei hysbrydoli gan awdur hynod dalentog Gawain Cymraeg, Gavin Walsh y Gwyddel sy’n byw yn UDA, sydd wedi cyhoeddi dau lyfr gyda’r trydydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022 am y ddamwain erchyll.

Mae ymdrechion, ymchwil a sylw i fanylion am yr awyren, y criw a’r teithwyr yn ddarlleniad difyr.

Cerddodd Dafydd a Hywyn i fyny trwy Feddgelert heibio Llyn Gwynant i gilfan lle benderfynwyd barcio y car a chychwyn ar y llwybr hir ac anodd, gwlyb a throellog i gyfeiriad Cwm Edno.

‘Rhaid i mi gyfaddef yn yr amodau niwlog, gwlyb roedd sgiliau llywio Arweinydd Mynydd Hywyn yn fendith.’ meddai Dafydd

‘Wrth ddynesu at safle’r ddamwain, yn iasol daeth rhuo awyren dros y mynyddoedd, stopion ni edrych ar ein gilydd – roeddwn i’n gwybod beth oedd yn ei feddwl ac mae’n debyg ei fod yn darllen fy meddwl innau hefyd….amser yn teithio nôl i 70 mlynedd’

‘Cyrhaeddom y lechen gofeb gan osod rhai blodau a thynnu lluniau – wrth edrych ar safle’r ddamwain a oedd 100metr arall o’n blaenau.’

‘Aethom at yr ardal ddamwain ei hun, gan symud yn ofalus trwy’r tir corsiog cyn stopio, cymeryd dau funud dawel i fyfyrio ar ba mor fregus yw bywyd ac arswyd y St Kevin allan o reolaeth a’r disgyniad troellog, troellog allan o’r awyr dywyll stormus i gael ei blannu i dir yn y dyffryn unig hwn.’

Adroddodd Hywyn yn barchus enwau pob un o’r 23 o griw a theithwyr ac fe ddilynais i gyda cherdd fer addas.

Gadawodd y ddau y safle yn dawel a chymryd cipolwg yn ôl gan feddwl tybed ymhen 10 mlynedd y daw rhywun arall yma i GOFIO’R ANGHOFIWYD.

Mae un o’r lluniau yn dangos rhan o adain awyren St Kevin’s, a ddarganfyddwyd tua milltir o safle’r ddamwain gan aelodau o Grŵp Cerdded ‘Safwn yn y Bwlch’ flwyddyn ddiwethaf.

Wrth holi Dafydd pam ei fod efo diddordeb cofio a mynychu y safle dywedodd ’dwi’n cofio clywed fy yncl yn trafod y digwyddiad erchyll yr holl flynyddoedd yn ôl pan oeddwn ni yn 6 mlwydd oed, ble roedd wedi gwneud galwad ffôn y noson honno yn adrodd pryder am awyren a rwyf wedi teimlo cysylltiad ers hynny a wedi mwynhau dysgu a darllen am hanes am yr holl deithwyr arbennig oedd ar yr awyren y diwrnod hwnnw!’