Cofis, ’da ni angen eich help!

Blog byw Gwersyll Haf Rygbi’r Cofis ar restr fer Barn y Bobol 2022

gan Tomos Owen

Mae Blog byw Gwersyll Haf Rygbi’r Cofis gan Hannah Hughes ar restr fer ‘Barn y Bobl’, sy’n rhan o wobrau Bro360 2022.

Fedrwn ni gael stori gan y Cofis i’r brig?!

Dyma’ch cyfle chi i helpu Caernarfon360 i ennill Barn y Bobol eleni, wrth bleidleisio am y blog rhwng rŵan ac amser cinio 28 Ionawr.

 

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Facebook Live Bro360 am 8pm nos Wener 28ain.

Yn ogystal, mae’r blog byw wedi’i enwebu ar gyfer y gwobr Blog y flwyddyn, ac mae Caernarfon360 yn y ras ar gyfer Gwasanaeth Lleol y Flwyddyn. Cadwch lygad ar y cyfryngau i glywed pwy sy’n dod i’r brig!