Cofis yn dathlu Cwpan y Byd

Digwyddiad arbennig o fewn muriau’r dref.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Untitled-design-24

Mae Llety Arall yn trefnu digwyddiad i ddathlu’r ffaith bod Cymru wedi cyrraedd twrnamaint Cwpan y Byd yn Qatar! Bydd yn gyfle ichi  glywed gan rai o leisiau amlycaf pêl droed Cymru.

Bydd Rhys Iorwerth, un o feirdd a chefnogwyr pêl droed Dre yn holi Sioned Dafydd, Gohebydd a Chyflwynydd ar Sgorio, Heledd Anna, Cyflwynydd Chwaraeon BBC Radio Cymru, a Sara Pennant, Rheolwr Cyfathrebu Cymdeithas Bêl droed Cymru.

Mae’r dair ymhlith lleisiau amlycaf pêl droed Cymru, ac mae ganddyn nhw gyfoeth o wybodaeth i’w rhannu wrth inni edrych ymlaen at bennod arwyddocaol yn hanes Cymru.

Mae’n anodd meddwl am neb gwell i arwain y noson. Bardd lleol sydd wedi hen arfer dogfennu hynt a helynt tîm pêl droed Cymru yn ei farddoniaeth. Mae ganddo brofiad o gyfuno ei sgwennu gyda’i ddiddordeb mewn pêl droed, ac aeth draw yn ddiweddar i Glwb Pêl droed Merched Caernarfon i gyfansoddi anthem arbennig!

Hefyd, yn 2020, cyflwynodd Rhys raglen radio arbennig yn edrych ar ddylanwad y tîm pêl droed cenedlaethol ar ein hunaniaeth genedlaethol.

Mae Sara Pennant yn frodor o Gaernarfon wrth gwrs, a bydd yn rhoi mewnwelediad unigryw inni fel aelod o dîm cyfathrebu canolog tîm Cymru. Mae tref Caernarfon yn falch iawn o Sara, a’i rôl yn ymdrech CBDC i roi llwyfan rhyngwladol i’r Gymraeg ac i hunaniaeth Gymreig.

Mae’n argoeli i fod yn noson ddifyr, ac yn gyfle perffaith i edrych ymlaen at Qatar.

Bydd Cymru yng Nghwpan y Byd yn cael ei chynnal yn Lle Arall, yr ystafell gymunedol yn Llety Arall ar 25.07.22 am 19:00PM.

Bydd yn ddigwyddiad hybrid, gyda rhai o’r cyfranwyr yn ymuno o bell. Mae croeso i’r rhai sy’n dymuno dod i’r digwyddiad wneud hynny yn y cnawd neu’n rhithiol.

I dderbyn dolen i ymuno yn rhithiol, anfonwch neges at post@lletyarall.org.