Covid-19 a Chaernarfon: Ddwy flynedd yn ddiweddarach

Nodi dwy flynedd o Covid

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
276312292_333033062137757

Dewi Jones, Chris Summers, Ann Hopcyn.

Mae’n ddwy flynedd i’r diwrnod ers pan aeth Cymru a gweddill gwledydd y DU i mewn i’r cyfnod clo cyntaf. Mae heddiw’n gyfle i adlewyrchu felly, ac edrych yn ôl ar sut y daeth trigolion Tref y Cofis ynghyd mewn cyfnod rhyfedd. 

Yn nyddiau cynnar Covid-19 sefydlwyd sawl grŵp gan wirfoddolwyr er mwyn cynnig cymorth a chefnogi rhai o bobl fwyaf bregus Caernarfon. 

Grŵp a sefydlwyd ychydig cyn Mawrth 23 oedd Cofis Curo Corona. Un o’r sylfaenwyr oedd Dewi Jones.

“Ryw wythnos cyn y clo roedd hi’n dechrau dod yn amlwg i ba gyfeiriad oedd pethau yn mynd, wrth i fwy a mwy o wledydd Ewrop ddechrau cau i lawr.

“Cafodd cyfarfod ei alw yn y Clwb Rygbi, felly es i draw rhag ofn y byswn i’n gallu gwneud rhywbeth i helpu. mynychodd bron i 100 o bobl ac fe wirfoddolodd 5 ohonom i arwain y gwaith mewn gwahanol rannau o’r dref. 

“Y penwythnos canlynol cafodd taflen gyda manylion cyswllt y cydlynwyr ardal ei bostio drwy bob drws yn y dre’, a dyna oedd dechrau ar dros flwyddyn o gasglu presgripsiwns a siopa bwyd ar ran pobl doedd methu.

“Nes i fwynhau’r gwaith yn arw a byswn i’m yn meddwl dwywaith cyn gwirfoddoli eto, mi ddois i ar draws gymaint o bobl ddifyr ac roedd hi’n braf gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r dref lle’m magwyd.”

Y cogydd Chris Summers oedd un o’r unigolion y tu ôl i gynllun Porthi Pawb a Phorthi Plantos

“Yn ystod y cyfnod clo cyntaf roeddwn adre o’r gwaith a gyda dim byd i wneud, felly nes i ddechrau meddwl, beth alla i wneud i helpu’r gymuned?

“Oherwydd fy ngwaith roeddwn yn gwybod bod llawer o fwyd oedd fod ar gyfer bwytai am fod yn cael ei wastraffu, felly nes i ofyn os byswn i’n cael ei ddefnyddio er mwyn gobeithio bwydo rhyw hanner cant o bobl.

“Fe dyfodd Porthi Pawb yn sydyn, roeddan ni hefyd yn bwydo plant ysgol yn ystod y gwyliau. Yn ei anterth roeddem yn paratoi dros 650 o brydau yr wythnos yng nghegin Ysgol Syr Hugh.” 

Ychwanegiad mwy parhaol i’r dref, ond sydd â’i wreiddiau yn y cyfnod clo ydi siop O Law i Law ar Stryd Llyn. Mae Ann Hopcyn yn un o gyfarwyddwyr y fenter.

Ar ddechrau’r pandemig gwelodd llawer o bobl ostyngiad yn eu hincwm oherwydd swyddi’n cael eu torri neu furlough. Ond roedd babis yn dal i gael eu geni a phlant yn dal i dyfu ac angen dillad mwy o faint.

“Aeth criw ohonom ati i gasglu dillad ac offer babis a phlant a’u cadw yn selar adeilad Y Cyngor Tref er mwyn eu dosbarthu i’r rheiny oedd eu hangen.

“Gwelwyd yr angen i sefydlu gwasanaeth mwy hirdymor, ac yn dilyn llwyddo i gael cefnogaeth gan y Llywodraeth, cymerwyd les ar 14 Stryd Llyn. Yng Ngorffennaf 2021, yn dilyn gwaith glanhau a phaentio a mewnbwn busnesau lleol,  agorwyd y drysau gydag Ellen Owen yn rheolwr a chriw o wirfoddolwyr yn cefnogi.” 

“Mae’r ymateb i’r fenter yn hynod bositif: prisiau rhesymol gydag eitemau mewn cyflwr da yn cael croeso mawr ar aelwyd newydd”

Ddwy flynedd ers y clo cyntaf, mae pethau’n dechrau dychwelyd i normalrwydd, ond mae Covid yn parhau i fod yn rhwystr i elfennau o’n bywydau. Gobeithio na welwn yr haint yn codi ei ben yn y fath fodd eto.