Cyfarfod Cyhoeddus Cronfa Caernarfon

Bydd cyfarfod cyhoeddus Cronfa Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn cael ei gynnal ar y 23ain o Fawrth.

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Ddwy flynedd yn ôl daeth criw at ei gilydd i Dafarn yr Alex yng Nghaernarfon i ddechrau hel syniadau i gasglu arian ar gyfer Cronfa Caernarfon i’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2021. Yn anffodus, ni fu i ni fedru bwrw ymlaen ag unrhyw un o’r syniadau bryd hynny ond rŵan, ddwy flynedd yn ddiweddarach, rydym yn barod i ail afael ynddi.

Byddwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Llety Arall Stryd y Plas, ar y 23ain o Fawrth am 7yh. Rydym yn awyddus i gael cynrychiolaeth eang o Gaernarfon yn ymuno â ni. Bydd y pwyllgor yn rhannu rhai syniadau sydd wedi’i trafod ond yn fwy na dim, rydym eisiau clywed eich syniadau chi!

Targed Caernarfon yw £30,000 felly mae gennym ni dipyn i’w wneud dros y misoedd nesaf!

Bydd niferoedd cyfyngedig yn medru mynychu oherwydd canllawiau’r lleoliad felly rhowch wybod os ydych am fynychu trwy e-bostio tomos882@btinternet.com. Os nad ydych eisiau mynychu byddwn hefyd yn gwneud trefniadau i’r cyfarfod fod yn un hybrid a bydd modd i chi ymuno’n fyw o adre dros Zoom, e-bostiwch mirain.roberts@gmail.com i dderbyn linc.

Gallwch ddarllen mwy am yr Eisteddfod fan hyn: Llŷn ac Eifionydd 2023 | Eisteddfod Genedlaethol  a cofiwch ddilyn ein cyfrifon cymdeithasol i ddysgu mwy am ein digwyddiadau dros y misoedd nesaf!