Cyhoeddi llyfryn cymorth costau byw ar-lein

Mae gobaith y bydd y llyfryn yn cyfeirio etholwyr at gymorth hanfodol

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
Untitled-design-2022-28T153707

Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS

Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru a San Steffan, a’r wythnos hon maent wedi cyhoeddi llyfryn gwybodaeth ar yr argyfwng costau byw.

Bydd y ddogfen ar-lein, sy’n cael ei chywain gan yr ASau, yn cael ei diweddaru bob wythnos i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn berthnasol a chyfredol.

Mae Siân Gwenllian, cynrychiolydd Arfon yn y Senedd, wedi trafod cysyniad y llyfryn:

“Rydym yn byw mewn cyfnod o galedi ariannol digynsail i deuluoedd ar draws Arfon a Chymru gyfan.

“Rydym yn deall fod pryder gwirioneddol am y gaeaf o’n blaenau, ac am y cynnydd mewn biliau a chostau byw’n gyffredinol.

“Rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau gan etholwyr pryderus, ac rydym wedi penderfynu llunio llyfryn, sydd ar gael ar-lein ac, ar gais, ar bapur, i godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl mewn cyfnod mor heriol.”

Ychwanegodd Hywel Williams AS:

“Mae teuluoedd ac unigolion yn Arfon o dan bwysau aruthrol oherwydd prisiau ynni cynyddol, costau bwyd yn codi a chynnydd sylweddol mewn taliadau morgais a rhent.

“Weithiau, mae gwybod at bwy i droi am gymorth a chyngor yn gallu bod yn anodd.

“Rydym wedi llunio’r llyfryn defnyddiol hwn i gyfeirio ein hetholwyr at gymorth ac arweiniad. O gyngor ar fudd-daliadau a banciau bwyd i helpu gyda biliau – rydym wedi ymdrechu i gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl i wneud pethau’n haws i bobl.”

Dylai’r sawl sy’n dymuno cael copi ar-lein ddilyn y ddolen hon.

 

I dderbyn copi papur o’r llyfryn dylech gysylltu â swyddfa’r ASau ar sian.gwenllian@senedd.cymru, hywel.williams.mp@parliament.uk neu drwy ffonio 01286 672076.