Cymru, Caernarfon a Coleg Menai ?

Mae cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol wedi canfod ffordd arall o ysbrydoli drwy ddysgu, hyfforddi a dyfarnu!

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
C25FBF82-283F-40BE-AD58
09305088-012F-496E-B002

Mae cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru wedi canfod ffordd arall o ysbrydoli drwy ddysgu, hyfforddi a dyfarnu!

O ddydd i ddydd mae Jennifer ‘Treacle’ Davies yn gweithio fel arweinydd rhaglen ar gwrs Gwasanaethau Cyhoeddus Lifrog Coleg Menai, yn addysgu a rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n gweithio tuag at ennill eu Diploma Lefel 3. 

Mae Jennifer yn addysgu myfyrwyr ar gyfer y cymhwyster, ochr yn ochr â chymwysterau ychwanegol, sy’n hyrwyddo datblygiad sgiliau ehangach dysgwyr.

Cynlluniwyd y cwrs i baratoi dysgwyr ar gyfer gweithio yn y Lluoedd Arfog, yr Heddlu, y Gwasanaeth Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân, y Gwasanaeth Carchardai, sefydliadau cymunedol a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â’r gwasanaethau brys ac mae profiadau Jennifer yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr.

Enillodd ei chap rhyngwladol cyntaf yn 21 oed, a mynd ymlaen i hawlio 73 arall o gapiau Cymru yn y rhes flaen. Yn ystod ei gyrfa fel chwaraewr rhyngwladol bu’n aelod o’r sgwadiau Chwe Gwlad rhwng 2003 a 2015 ac roedd yn aelod o’r tîm a enillodd y Goron Driphlyg yn 2019!

Cafodd Jennifer ei magu yn Aberhonddu a dechreuodd chwarae rygbi’r undeb yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd cyn mynd ymlaen i chwarae’n rhanbarthol a dechrau gyrfa a’i gwelodd yn datblygu i fod yn un o aelodau rheolaidd y tîm cenedlaethol.

Ar ôl cwblhau ei gradd symudodd i Ogledd Cymru yn dilyn derbyn ei swydd gyntaf fel Swyddog Datblygu Rygbi Menywod a Genethod gydag Undeb Rygbi Cymru.

Yn y swydd hon roedd Jennifer yn Gydlynydd Rhaglen Ranbarthol Rygbi Gogledd Cymru ble datblygodd ei sgiliau hyfforddi ac ennill ei chymhwyster Hyfforddi Rygbi Lefel 3, a daeth yn Addysgwr Cwrs Hyfforddi Undeb Rygbi Cymru ar gyfer hyfforddwyr a dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru.

Dilëwyd y swydd Swyddog Datblygu Menywod a Genethod Undeb Rygbi Cymru yn 2005 a phenodwyd Jennifer i swydd llawn amser yng Ngholeg Menai.

Mae Treacle yn aelod gwerthfawr i Glwb Rygbi Caernarfon, gan iddi fod yn aelod o bwyllgor y clwb, yn chwaraewraig fyddlon, yn ddyfarnwr brwdfrydig ac bellach yn hyfforddi Tîm y Merched sydd bellach wedi dychwelyd i Uwch Gynghrair Merched Rygbi Cymru 

Clwb Rygbi Caernarfon

Dechreuodd addysgy yn 2005 yng Ngholeg Menai, coleg addysg bellach ac uwch ym Mangor.

Mae hi’n mwynhau gwneud gwahaniaeth i fywydau’r myfyrwyr, a’u gweld yn gwneud cynnydd ar ôl bob gwers, bob tymor a phob blwyddyn.

Dywedodd: “Dw i wrth fy modd efo her! Rhai dyddiau mae fy swydd yn fwy heriol nag eraill, ond fyddwn i ddim yn ei newid. Rydw i’n hoffi gwylio dysgwyr yn tyfu a’u cefnogi i wneud eu dewisiadau (personol ac o ran eu gyrfa), a helpu i’w llywio tuag at y penderfyniad cywir. Mae’n rhoi boddhad mawr i mi fedru rhoi cymorth a chefnogaeth iddyn nhw ar eu taith a’u gweld yn ffynnu fel unigolion.”

Bu Jennifer yn hyfforddwr a rheolwr tîm rygbi merched Colegau Cymru hefyd ac mae wedi cefnogi llawer o ferched i dderbyn eu capiau rhyngwladol Colegau Cymru cyn mynd ymlaen i gael capiau rhyngwladol fel aelod Tîm Rygbi Merched Cymru.

Mae’n rhan bwysig o raglen lwyddiannus Academi Menai a gynhelir gan Goleg Menai, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr o bob cwrs gymryd rhan mewn chwaraeon yn ogystal â’u cwrs galwedigaethol, gyda gemau wythnosol yng Nghymru a gogledd orllewin Lloegr.

Academi Menai – Grŵp Llandrillo Menai

Mae’n llwyddo i ganfod cydbwysedd rhwng gweithio’n llawn amser fel tiwtor a hyfforddi tîm Rygbi Merched Cyntaf Caernarfon a dyfarnu mewn gemau rygbi ar y penwythnos.

Ychwanegodd Jennifer: “Dw i’n credu ei bod yn hanfodol bwysig eich bod yn defnyddio’r hyn rydych chi’n angerddol amdano i annog myfyrwyr i gredu bod unrhyw beth yn bosibl! Trosglwyddwch eich angerdd!”

Mae Jennifer yn gobeithio cwblhau ei chwrs Hyfforddwr Hyfforddiant Personol ac ennill dyfarniad Arweinydd Iseldir ar gyfer arwain teithiau cerdded eleni i gyfoethogi ei sgiliau, a’i chynorthwyo i roi rhagor o gefnogaeth i ddysgwyr yng Ngholeg Menai.

Hoffech chi gael gyrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus lifrog?

Cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus Lifrog Lefel 3