Cymru yn trechu Lloegr gyda perfformiad bythgofiadwy ar Yr Oval

Torf enfawr o 1,400 yn cael gêm i’w gofio yn Gaernarfon

gan Jordan Thomas
Will Cheshire ( Y Clwb Pel-droed

Mewn gem fythgofiadwy ar Yr Oval, Cymru oedd yr enillwyr wrth iddynt drechu Lloegr gyda pherfformiad hanner cyntaf anhygoel.

Dwy gôl bob un gan Aeron Edwards a Will Evans wnaeth setlo’r gêm i Gymru a hynny gyda’r pedwar gol yn yr hanner cyntaf. Fe ddechreuodd y gêm gyda Lloegr yn rheoli’r meddiant ond ddim yn gwneud llawer hefo’r bel. Ar y llaw arall fe oedd Cymru yn edrych yn beryglus hefo’r ychydig feddiant oeddent yn eu cael.

Yn y nawfed munud fe agorwyd y sgorio gan Will Evans, y gŵr 24 oed sydd yn chwarae ei bêl-droed dros Y Bala. Rheolodd Evans y bel yn wych ag yna anelodd ergyd isel i gornel y gôl ac yn erbyn llif y chwarae roedd Cymru 1-0 i fyny.

Sbardun i Gymru oedd y gôl gyntaf oherwydd am weddill yr hanner, nid oedd Lloegr yn medru delio gyda chwarae cywir a chyflym gan Gymru. 10 munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Cymru eu hail gol. Pas lac yn yr amddiffyn i Loegr o dan bwysau gan Kayne McClaggon ac Aeron Edwards oedd yno i fanteisio wrth iddo orffen yn daclus heibio Scott Loach.

Fe oedd Cymru yn holl haeddiannol o eu mantais ac yn bwriadu gwneud y fantais yn fwy. Dyna yn union ddigwyddodd yn 24ain munud o’r gêm wrth i Aeron Edwards rhwydo ei ail o’r gêm. Gwaith da gan Will Evans yn canfod Lewis Harling yn y cwrt ac yna croesiad Harling yn canfod Edwards llai na chwe llath o’r gôl a gyda thasg hawdd i orffen y symudiad ac fe oedd hi’n dair i Gymru.

Rhyw 10 munud cyn hanner amser, sgoriodd Will Evans ei ail gol o’r gêm a choroni noson berffaith i dîm Cymru C. Tafliad gan Mael Davies yn cael ei reoli yn berffaith gan Evans ac wrth iddo droi, ergyd anhygoel i gornel bellaf y gôl yn gadael dim siawns i Loach i’w chyrraedd hi.

Nid oedd yr ail hanner yr un mor gyffrous â’r cyntaf ond fe oedd hynny i ddisgwyl ar ôl y perfformiad aruthrol yn yr hanner gyntaf. Ceisiodd Lloegr cael ei hunain nol fewn i’r gêm ond nid oedd ergydau gan Michael Cheek, Callum Roberts na Armani Little yn drafferth i Alex Ramsay yn gol i Gymru.

Fe wnaeth y dorf godi oddi ar eu traed unwaith eto pan oedd hi’n amser croesawu Darren Thomas i’r maes. Hogyn lleol yn cynreichiol ei wlad o flaen torf gartref iddo. Ni thrafferthodd Cymru rhyw lawer ar gol-geidwad Lloegr yn yr ail hanner ond i fod yn onest fe oedd y gwaith wedi ei wneud yn yr hanner cyntaf.

Perfformiad penigamp gan garfan Mark Jones gyda phob un ohonynt yn chwarae eu rhan mewn buddugoliaeth fythgofiadwy ar Yr Oval