Dafydd Iwan – Caeathro i Qatar

Cyfweliad arbennig efo Arwr Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿⚽🤩

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Cefais yr anrhydedd i gwrdd a chyfweld Dafydd Iwan cyn iddo hedfan allan gyda Cymdeithas Pel Droed Cymru i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd! ⚽✈

Mae Dafydd yn ganwr, gyfansoddwr, gwleidydd, pregethwr a dyn busnes sydd wedi cefnogi, hyrwyddo a ffrwythloni ein Economi leol dros y blynyddoedd ond hefyd yn gyfaill ac yn rhan arbennig o’n Cymuned NI ac yn ysbrydoliaeth i’r Byd! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Fel darlithydd Busnes Lefel A yn Coleg Menai Llangefni, roeddwn eisiau i fyfyrwyr busnes gael y cyfle i holi cwestiynnau a gwrando ar gyngor o’r ardal leol a phwy well na dyn y foment Dafydd Iwan sydd wedi sefydlu a chyfarwyddo sawl Cwmni Lleol, wedi bod ar frig siartiau I Tunes, ddwy waith! A sydd dâl ati i weithio a ysbrydoli heb ddim sôn am arafu lawr!! 🤩

Mae’r cyfweliad yma yn adlewyrchu llwyddiannau Dafydd a’i waith ddi-ddiwedd yn hyrwyddo pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg, i gefnogi ein gilydd a dwi’n diolch iddo am y cyfle i gael sgwrs.

Pob Hwyl yn Qatar 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿⚽🎵

Diolch Dafydd – AM BOPETH!

#YmaoHyd #ArBenyByd #ArwrNi