Dafydd Iwan a Twthill yn dathlu Dewi Sant

Cynhaliwyd cystadleuaeth addurno ffenestri gan grwp cymunedol Twthill dros y Sul gyda Dafydd Iwan yn feirniad. 

Nici Beech
gan Nici Beech
d31c2f21-9c9e-4c5d-9b25-1e7fc492d2aa
bc21a180-04de-4b3e-88ab-969a1ec9c25a
f67c3806-e8b2-457d-9cf7-923c140f541e
IMG_9341
IMG_9342
IMG_9343
IMG_9344
IMG_9324
IMG_9336
IMG_9334

Mae’r gweithgaredd diweddaraf gan Grŵp Cymunedol Twthill wedi ychwanegu lliw i’r ardal a gwên ar wynebau’r trigolion wrth i’r ardal fynd ati i addurno eu ffenestri dros y Sul mewn cystadleuaeth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Gwahoddwyd Dafydd Iwan i feirniadu ac fe roedd y wobr o docyn trên teulu o Gaernarfon I Feddgelert ar wasanaeth Fforiwr Gelert yn rhodd gan Reilffordd Eryri.

Caiff Twthill, sy’n ardal arwyddocaol yn nhref Caernarfon, ei disgrifio fel cymuned glos ac amrywiol iawn o ran oedran a chefndir ac roedd Dafydd Iwan wrth ei fodd yn crwydro’r ardal fore Sul. Enillydd y wobr a chrewyr y ffenest fuddugol oedd Nest Llwyd Owen sydd yn byw gyda’i theulu yn Stryd Edward.

Fel mae’n digwydd roedd Dafydd Iwan wedi byw yn Stryd Edward am gyfnod yn y 1970au a bu’n rhannu atgofion am ei gyfnod yno. Gan gymryd ei amser i astudio pob ffenest yn ofalus, fe ddywedodd ei fod wedi dewis ffenest Nest gan ei fod “mor greadigol, yn wahanol ac yn cynnwys llun o Dewi Sant.”

Roedd y gystadleuaeth yn amlwg wedi plesio’r trigolion hefyd wrth i aelodau’r grŵp dderbyn sylwadau cadarnhaol ar y strydoedd ac ar dudalen Facebook Twthill.