Dre yn dathlu Ellen

Addysgodd Ellen Edwards dros 1,000 o ddynion sut i fordwyo

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
279624351_5051538578263277

Ddydd Sul bydd Caernarfon yn dathlu bywyd a gwaith ffigwr blaenllaw yn hanes Cymru.

Er ei bod yn cael ei chysylltu’n bennaf â thref Caernarfon, ganwyd Ellen yn Amlwch, yn ferch i’r Capten William Francis, a adawodd y môr yn 1814 i agor ysgol fordwyo yn Amlwch. Parhaodd Ellen yn ôl troed ei thad, gan symud i dref borthladd Caernarfon yn 1830 ac agor ysgol fordwyo yn 34 Stryd Newydd.

Derbyniodd dros 1,000 o ddynion Caernarfon, Môn a Llŷn eu haddysg dan adain Ellen, ac mae’n amlwg fod dŵr môr yng ngwaed y teulu, oherwydd roedd merch Ellen, Ellen Francis Edwards, yn gynorthwydd yn yr ysgol hefyd.

Pan fu farw Ellen yn 79 oed yn ei chartref yn 13 Stryd y Degwm, fe’i galwyd gan un papur newydd yn “athrawes forwrol mwyaf llwyddiannus Gogledd Cymru am gyfnod hir o tua 60 mlynedd.”

Serch hyn, ychydig iawn sy’n hysbys am fywyd a gwaith Ellen, ac mae menter gymunedol yng Nghaernarfon yn gobeithio mynd rhywfaint o’r ffordd i unioni’r cam hwn, gyda digwyddiad arbennig yn cael ei drefnu i ddathlu bywyd a gwaith Ellen.

Bydd Gŵyl Ellen yn cael ei chynnal yn Lle Arall ar Stryd y Plas ddydd Sul.

14:00

Mae’r ŵyl yn dechrau yng nghwmni Elin Tomos, yr hanesydd sy’n arbenigo mewn hanes diwydiannol lleol, ac yn arbennig rhan merched yn yr hanes hwnnw. Bydd Elin yn cael sgwrs gydag Aled Hughes, cyflwynydd BBC Radio Cymru sydd yn aml yn canolbwyntio ar agweddau ar hanes Cymru yn ei raglen foreol.

15:00

Set o gerddoriaeth werin, forwrol, Gymraeg gan Gwilym Bowen Rhys, y cerddor o Fethel. Mae gan Gwilym wybodaeth helaeth o gerddoriaeth hanesyddol, Gymraeg, ac mae gan bob cân ei hanes unigryw ei hun.

16:00

I gloi, byddwn yn dangos cyfres o glipiau byr yn bwrw golwg ar Merched y Môr, cyfrol o 2013 sy’n dogfennu rhan merched Cymru yn hanes morwrol y wlad, o 1750 hyd heddiw.

Bydd Gŵyl Ellen yn cael ei ffrydio’n fyw, a dylai’r sawl sy’n dymuno dilyn y digwyddiad o bell gysylltu â Lle Arall ar 01286662907 neu post@lletyarall.org.

Nid oes angen i’r sawl sy’n mynychu’r digwyddiad ‘yn y cnawd’ gofrestru, ac nid oes cost mynediad.

Dylai’r sawl sy’n dymuno derbyn diweddariadau ddilyn y ddolen hon: https://fb.me/e/1W2FnNGHK