Dre yn dathlu hanes LGSM a Streic y Glöwyr

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Lle Arall

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae digwyddiad arbennig wedi’i drefnu yng Nghaernarfon i ddathlu “pennod arbennig iawn yn hanes LHDT Cymru.”

Roedd Lesbians and Gays Support the Miners (LGSM) yn fudiad o lesbiaid a dynion hoyw a oedd yn cefnogi Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ystod streic 1984 1985.

Erbyn diwedd y streic roedd cangen y mudiad yn Llundain wedi codi £22,500 (£70,000 yn 2022) i gefnogi cymunedau a effeithwyd gan raglen dad-ddiwydiannu llywodraeth Thatcher.

Cafodd yr hanes ei ddramateiddio yn Pride, ffilm ddrama hanes o 2014 a ysgrifennwyd gan Stephen Beresford.

‘Hanes cythryblus’

 

Un o brif gymeriadau’r ffilm oedd Jessica Gunning yn chwarae rhan Siân James, ymgyrchydd yn Streic y Glowyr a aeth ymlaen i fod yn Aelod Seneddol Llafur dros Ddwyrain Abertawe rhwng 2005 a 2015.

Yn ystod Streic y Glowyr ym 1984, llwyddodd Siân James i helpu i fwydo dros 1,000 o deuluoedd yr wythnos, a’r wythnos nesaf bydd y cyn-wleidydd yn codi cwr y llen ar yr hanes cythryblus, a chyd destun cymdeithasol hanesyddol y ffilm.

Bydd Iestyn Wyn, Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil Stonewall Cymru yn ymuno â hi mewn sgwrs.

Dywedodd Osian Owen, sy’n trefnu’r digwyddiad ar ran Llety Arall, menter gymunedol yng nghanol Caernarfon:

“Cynhelir y digwyddiad hwn ar adeg arbennig o berthnasol.

Ddydd Mercher (Mai 19) byddai Mark Ashton wedi dathlu ei ben-blwydd yn 62 oed. Roedd Mark yn un o gyd-sylfaenwyr grŵp LGSM. Yn anffodus bu farw 12 diwrnod ar ôl derbyn diagnosis o HIV/AIDS. Roedd yn ffigwr allweddol yn y bennod arbennig hon o hanes Prydain.

Yn ogystal â hynny, ar Fai 17, nodwyd Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Biffobia. Ar adegau mae’n anodd peidio â theimlo bod cymdeithas yn symud am yn ôl yn eu hagweddau tuag at y gymuned LHDT+.

Mae ymchwil diweddar gan Stonewall yn datgelu fod un o bob pump o bobl LHDT wedi profi trosedd o gasineb oherwydd eu rhywioldeb yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bod dros hanner pobl draws wedi dioddef trosedd o gasineb oherwydd eu hunaniaeth ryweddol.

Gobeithiwn y bydd y digwyddiad hwn yn ddathliad positif o’n hamrywiaeth, ac yn gyfle i ddathlu’r bennod arbennig hon yn hanes LHDT Cymru.”

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystafell ddigwyddiadau Llety Arall, sef Lle Arall, yn 10 Stryd y Plas, LL55 1RR. Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei ffrydio’n fyw a dylai’r sawl sy’n dymuno derbyn dolen gysylltu â Llety Arall ar 01286 662907.

Nid oes angen cofrestru ar gyfer y rhai sy’n mynychu’r digwyddiad wyneb yn wyneb, ac mae mynediad yn cael ei gynnig ar sail “talwch be fedrwch/os fedrwch chi”, penderfyniad a wnaed mewn ymateb i’r argyfwng costau byw, yn ôl trefnwyr.

Dylai’r sawl sy’n dymuno derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ddilyn y ddolen hon.